Caernarfon: 'Pryder' am or-yrru a gyrru gwrth-gymdeithasol
Mae yna bryder am or-yrru a gyrru gwrth-gymdeithasol yn nhref Caernarfon, yn ôl cynghorydd lleol.
Dywedodd y cynghorydd Cai Larsen, sy'n cynrychioli ward Canol Tref Caernarfon ar Gyngor Gwynedd, ei fod yn derbyn sawl ymholiad gan drigolion y dref am y pryderon hyn.
"Ma' 'na bryderon yn dod o wahanol rannau o'r ward a ma' nhw'n ymwneud efo dau beth mewn gwirionedd ond ma' nhw'n gysylltiedig," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ma' un yn ymwneud efo goryrru a'r llall yn ymwneud efo dreifio gwrth-gymdeithasol lle ma' genno ni bobl ifanc gan amlaf am wn i, yn mynd o gwmpas mewn ceir ar gyflymdra ddylia nhw ddim mynd, bod 'na sŵn rêfio uchel ac ati, a ma' hynna yn achosi i bobl fod yn anghyfforddus a pobl i boeni."
Mae Mr Larsen yn ymwybodol fod y pryderon hyn yn fwy amlwg mewn ardaloedd penodol o'r dref.
"Mi ydw i'n boenus amdana fo yn digwydd yn rhannau o'r dref yn sicr, er enghraifft ma' 'na broblemau gor-yrru o gwmpas lle ma'r draphont a ma' fanno yn lle lle ma' 'na feithrinfa, ma' 'na lot o bobl yn croesi'r ffordd a ma' hwnnw yn achosi gofid i fi," meddai.
"Ma' 'na yrru gwrth-gymdeithasol ar hyd strydoedd cul iawn fatha yn ardal Tre Gof tu ôl i'r post a ma' heina yn llefydd cyfyng iawn lle fasa damwain yn gallu digwydd yn hawdd iawn."
'Trosolwg o lle mae'r broblem ar ei gwaethaf'
Mae Mr Larsen wedi bod yn cael trafodaethau gyda'r heddlu am y pryder, ond dywedodd fod y broblem yn parhau a bod angen cymryd camau pellach.
"Dwi wedi gwneud cais i siarad efo Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru am y mater a mae o wedi cytuno i siarad efo fi yng nghwmni un o swyddogion heddlu sy'n gyfrifol am Gaernarfon," meddai.
"Problem heddlu ydi hi'n diwadd, nhw sydd efo'r pwerau i stopio hyn ddigwydd, yn amlwg efo gor-yrru, ma' nhw'n gallu erlyn pobl fanno, ag efo gyrru gwrth-gymdeithasol, ma' genna nhw bwerau os ydi pobl yn dal i wneud hynny."
Ychwanegodd: "Be fyswn i'n licio ydi pan dwi'n cyfarfod efo'r Comisinydd Heddlu ydi bod gen i drosolwg o lle mae'r broblem ar ei gwaethaf, o'dd gen i syniad reit dda beth bynnag - ma' 'na un o bobl wedi dod ata fi yn tynnu sylw at lefydd do'n i ddim yn ymwybodol ohonyn nhw," meddai.
"Os yda chi'n gw'bod rwbath, cysylltwch."