'Dyn o Gernyw ydw i nid Sais' medd AS Llafur
Dylai pobl o Gernyw fod yn "falch" o'u hunaniaeth, yn ôl Aelod Seneddol Llafur, wrth iddo gyhoeddi yn Nhŷ'r Cyffredin nad yw'n Sais.
Yn ôl Perran Moon, mae e wedi cael ei "wawdio" am ddisgrifio ei hun fel person o Gernyw.
Roedd yn siarad yn ystod dadl am y bil datganoli yn Lloegr.
Galwodd yr AS dros Camborne a Redruth ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau fod eu cynlluniau datganoli yn parchu statws Cernyw.
Yn ystod ail ddarlleniad y bil, dywedodd: “Rwy'n aml yn cael y cwestiwn, hyd yn oed gan gydweithwyr yn y lle hwn - ydw i yn ystyried fy hun yn ddyn o Gernyw neu yn Sais ?
“Fel gyda channoedd ar filoedd o ddynion a menywod o Gernyw, yn drist iawn, mae fy ateb yn destun gwawd yn aml. Felly gadewch i fi fod yn gwbl glir heddiw, rwy'n berson o Gernyw nid Sais.
“Ond rwy'n fodlon cyfaddef fod nifer o fy ffrindiau gorau yn Saeson.
“Ac i'r rhai adref, yn enwedig pobl ifanc, sydd hefyd wedi cael eu gwawdio, rwy'n dweud wrthyn nhw, byddwch yn swnllyd a balch.
“Mae'n iawn i chi ystyried eich hunain yn bobl Cernywaidd a Phrydeinig.”
Ychwanegodd: “Yn ystod llwybr y bil, byddaf yn gweithio gyda'r Llywodraeth, er mwyn sicrhau y bydd y bil yn parchu statws lleiafrifol Cernyw, ac yn darparu trefniant datganoli hanesyddol.”
Wrth agor y ddadl ar y bil datganoli, dywedodd Dirprwy Brif Weinidog y DU Angela Rayner mai dyma'r trosglwyddiad grymoedd mwyaf mewn cenhedlaeth.
Bydd cyfuniad o awdurdodau lleol yn Lloegr yn cael amrywiaeth eang o rymoedd newydd, wrth i feysydd trafnidiaeth, cynllunio a thai gael eu datganoli.
Llun: Tŷ'r Cyffredin/Laurie Noble