Agor cwest i farwolaeth dyn mewn tân yng Nghaernarfon
Mae cwest wedi agor ar ôl i ddyn 51 oed gael ei ddarganfod yn farw wedi tân yn ei gartref yng Nghaernarfon.
Bu farw David Alan Evans, o Lon-y-Bryn yn y dref ar 16 Awst.
Dywedodd yr uwch grwner ar gyfer gogledd orllewin Cymru, Kate Robertson ei bod yn aros am fanylion ynghylch achos y farwolaeth.
Cafodd y cwest ei ohirio wrth i'r ymchwiliad barhau.
Dywedodd yr heddlu fod larwm mwg wedi canu yn y cartref, a bod aelodau o'r cyhoedd wedi cysylltu â'r gwasanaethau brys i nodi fod tân yn y fflat.
Roedd Mr Evans wedi marw erbyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd y safle.