Rhybudd melyn am gawodydd trwm a gwyntoedd cryfion yn y de

Tywydd 2 Medi 2025

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am gawodydd trwm a gwyntoedd cryfion ar gyfer rhannau o dde Cymru.

Daw'r rhybudd i rym rhwng 00.01 fore Mercher a 14.00 prynhawn Mercher.

Gallai effeithio ar ardaloedd: Blaenau Gwent; Pen-y-bont ar Ogwr; Caerffili; Caerdydd; Sir Gaerfyrddin; Merthyr Tudful; Sir Fynwy; Castell-nedd Port Talbot; Casnewydd; Powys; Rhondda Cynon Taf; Abertawe; Torfaen; Bro Morgannwg.

Mae'n bosib y bydd rhwng 20-30 mililitr o law yn disgyn yn yr ardaloedd yma, ond gallai rhai ohonyn nhw weld 40-60 mililitr o fewn cyfnod o 6-9 awr.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai'r tywydd garw achosi llifogydd ac amharu ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. 

Mae'r swyddfa hefyd yn rhybuddio y gallai cyflenwadau trydan gael eu heffeithio.

"Bydd glaw trwm a gwyntoedd cryfion yn symud tua'r gogledd-ddwyrain drwy ran gyntaf dydd Mercher, ac yna cawodydd trwm a rhai stormydd mellt a tharanau, gyda'r rhain yn dod yn fwy ynysig yn ystod y prynhawn," meddai llefarydd ar ran y swyddfa.

"Mae gwyntoedd cryfion yn debygol ar hyd yr arfordir." ychwanegodd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.