Angen mynwent newydd 'ar frys' mewn pentref yn Llŷn
Mae angen mynwent newydd ar bentref yng Ngwynedd “ar frys” er bod y mynediad i'r safle dan sylw sydd ger ysgol wedi codi rhai “pryderon diogelwch”.
Mae cais wedi ei wneud i adran gynllunio Cyngor Gwynedd i ystyried cynllun i ddatblygu’r fynwent ar dir yn Nhudweiliog yn Llŷn.
Mae'r cais llawn wedi dod i law i greu’r fynwent i’r gorllewin o Ysgol Gynradd Tudweiliog i wasanaethu'r pentref a’r cyffiniau.
Dywed y cynlluniau bod “trafodaeth ac ymchwil helaeth” wedi eu cynnal i asesu pa dir oedd yn addas i'r fynwent o amgylch Tudweiliog.
“Mae’r fynwent bresennol yn Nhudweiliog bron yn llawn. Mae angen brys am le claddu ychwanegol i drigolion Tudweiliog a’r cyffiniau,” meddai'r adroddiad cynllunio.
Mae’r cais wedi’i wneud gan Gyngor Cymuned Tudweiliog, ac mae’n cynnig newid yn y defnydd o dir amaethyddol i greu'r fynwent newydd ar dir tu ôl i'r ysgol.
393 bedd
Byddai'r cynllun yn creu mynwent gyhoeddus newydd ar gyfer 393 o feddau ac yn cynnwys creu mynediad newydd i gerbydau, llwybr cerdded, maes parcio a thirlunio a chodi clawdd'neu glawdd pridd.
Mae'r cynlluniau'n nodi bod y safle a'r ardal gyfagos yn dod o fewn Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn a dynodiadau Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.
Mae'r cynnig yn cynnwys maes parcio ar gyfer 24 o gerbydau gyda lleoedd i ddefnyddwyr anabl, a man parcio a throi ar wahân ar gyfer cerbydau'r trefnwyr angladdau.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, dim ond un llythyr o ohebiaeth a dderbyniwyd.
Dywedodd ymateb gan bennaeth a llywodraethwyr yr ysgol gynradd leol fod yr ysgol yn "cefnogi egwyddor y datblygiad" ac yn "gwerthfawrogi" bod angen y cyfleuster ar y pentref.
Ond fe nodwyd y byddai'r fynedfa, i'r gorllewin o'r ysgol, yn gweld ymwelwyr â'r fynwent yn defnyddio ffordd gul sy'n ffinio â'r ysgol i gyrraedd y safle.