Cyhuddo dyn ifanc yn dilyn bygythiadau difrifol i fyfyrwyr mewn fideo
Mae dyn 21 oed o ardal Sir Caerffili wedi cael ei gyhuddo o gyfathrebu mewn ffordd oedd yn bygwth lladd neu achosi niwed difrifol.
Cafodd yr heddlu wybod am fideo ar YouTube oedd yn cynnwys bygythiadau tuag at fyfyrwyr Coleg Merthyr Tudful ddydd Sul.
Mae disgwyl i'r dyn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mawrth.
Llun: Coleg Merthyr Tudful