Goleuadau'r gogledd wedi eu gweld mewn ardaloedd o Brydain
Mae goleuadau'r gogledd wedi cael eu gweld dros nos mewn rhannau o Brydain ac Iwerddon.
Roedd y goleuadau lliwgar i'w gweld wedi storm heulol mewn sawl ardal gan gynnwys gogledd ddwyrain yr Alban, gogledd Cymru, gogledd Lloegr, canolbarth Lloegr, Norfolk a Caint.
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi dweud ddydd Llun y byddai yna siawns o weld y goleuadau mewn ardaloedd mwy deheuol o Brydain na'r arfer pe byddai'r awyr yn dywyll a chlir.
Mae posibilrwydd o weld y goleuadau eto nos Fawrth ond mae disgwyl i'r amodau i'w gweld waethygu. Gogledd yr Alban a gogledd Lloegr yw'r ardaloedd mwyaf tebygol o gael awyr glir er mwyn medru gweld y goleuadau.
Ond mae disgwyl lleuad waxing gibbous sef lleuad sydd rhwng hanner lleuad a lleuad lawn effeithio ar y tebygrwydd o allu gweld yr aurora ac fe fydd llygredd golau hefyd yn ffactor bwysig.
Llun: Owen Humphreys/PA Wire