Dyn wedi ei ddal 10 gwaith gan yr un camera cyflymder
Fe gollodd dyn oedd yn gyrru fan dosbarthu parseli ei drwydded ar ôl cael ei ddal 10 gwaith gan yr un camera cyflymder 20mya.
Dywedodd Gregory Williams, 37 oed, ei fod yn meddwl bod y ffordd yn un â chfyngder 30mya a’i fod wedi sylweddoli ei gamgymeriad yn rhy hwyr erbyn i’r rhybudd cosb cyntaf ddod drwy ei ddrws.
Mae’r camera cyflymder ar yr A5104 ym mhentref Pontybodkin ger yr Wyddgrug yn Sir y Fflint.
Fe gafodd fan Mercedes wen Mr Williams ei dal yno 10 gwaith, ac fe gafodd ei ddal unwaith gan gamera cyflymder 20mya arall ger Mynydd Isa, o fewn 35 diwrnod rhwng 4 Medi a 9 Hydref.
Roedd ei gyflymder yn amrywio rhwng 26mya a 34mya.
Mewn ymateb i Gais Rhyddid Gwybodaeth, datgelodd Heddlu Gogledd Cymru fod camera Pontybodkin wedi canfod 13,442 o droseddau goryrru y llynedd.
Hyd at fis Mehefin eleni roedd 5,000 wedi eu dal yno.
Cafodd Williams, o Ddyserth, ger y Rhyl, 37 o bwyntiau yn Llys Ynadon yr Wyddgrug ar ôl iddo bledio'n euog i oryrru, a bydd rhaid iddo dalu dirwy o £600 a chostau o £840.
Cafodd ei yrru adref o'r llys gan ei wraig ar ôl cael ei wahardd am chwe mis am "yrru'n rhy gyflym".
Ymddiheurodd y diffynnydd gan ddweud wrth y llys ei fod yn gyrru “mewn ardal newydd i mi”.
“Mi wnes i ei gamgymryd am barth 30mya. Erbyn i’r hysbysiad cyntaf ddod drwy’r post, roedd y gweddill eisoes wedi digwydd," meddai.