Cynnal angladd yr aelod Llafur o'r Senedd Hefin David

Angladd Hefin David

Mae angladd yr aelod Llafur o'r Senedd Hefin David wedi ei gynnal yng Ngelligaer yn Sir Caerffili. 

Bu farw'r gwleidydd, a oedd wedi cynrychioli Caerffili ers 2016, ar 12 Awst yn 47 oed. Bu farw ddiwrnod cyn ei ben-blwydd yn 48 oed.

Roedd Syr Keir Starmer ac Eluned Morgan ymhlith y rhai fu'n rhoi teyrnged iddo yn dilyn ei farwolaeth.

Fe wnaeth teulu Hefin David gyhoeddi teyrnged iddo gan ddweud ei fod yn “uchel ei barch ac yn cael ei garu'n ddiffuant gan y gymuned yr oedd yn ei chynrychioli”. 

"Ond yn fwy na hyn, roedd Hefin yn dad ymroddedig a oedd yn cael ei addoli gan ei ferched Caitlin a Holly, yn fab annwyl iawn i Wynne a Christine, yn frawd annwyl i Siân, yn ewythr gwych i Osian a Catrin, ac yn enaid hoff i'w bartner annwyl Vikki," medden nhw.

Clywodd agoriad cwest yr wythnos diwethaf iddo gael ei ddarganfod yn crogi yn ei gartref.

Fe wnaeth y crwner osod dyddiad arfaethedig o 7 Ebrill ar gyfer y cwest llawn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.