Ceredigion: Dwyn 42 o ŵyn o gae ger Ffostrasol

Praidd Capel Cynon

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i 42 o ŵyn gael eu dwyn o gae yng Ngheredigion.

Dywedodd yr heddlu bod yr ŵyn wedi eu dwyn o braidd o 400 oedd mewn un cae gerllaw Capel Cynon, Ffostrasol, rywbryd yn y tair wythnos diwethaf cyn 29 Awst.

Mae'r ŵyn yn cael eu gwirio'n rheolaidd, meddai’r heddlu, ond oherwydd bod cymaint yn y cae, dim ond nawr y mae wedi dod i'r amlwg wrth eu cyfri' bod 42 ar goll.

Dywedodd Arolygydd Heddlu Ceredigion, Matthew Howells ei fod yn “troi at y gymuned ffermio i’n helpu i ddod o hyd i’r anifeiliaid hyn ac adnabod y rhai sy’n gyfrifol”. 

“Rydyn ni’n gwybod o brofiad yn y gorffennol y bydd yr atebion i’w cael o fewn y diwydiant," meddai.

“Bydd rhywun wedi gweld yr anifeiliaid hyn naill ai’n cael eu rhoi mewn marchnad da byw, mewn lladd-dy neu efallai eu bod mewn cae ger lle rydych chi’n byw ac yn gweithio. 

“Mae yna hefyd bosibilrwydd eu bod wedi mynd i mewn i’r gadwyn fwyd yn anghyfreithlon fel ‘smokies’. 

“Mae effaith lladrad ar y raddfa hon yn cael effaith ddinistriol ar y dioddefwr, ei deulu a’i fusnes.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.