Cyhuddo dyn o drosedd hiliol yn Wrecsam
Mae dyn 34 oed wedi ei gyhuddo o drosedd yn ymwneud â hiliaeth mewn cysylltiad â digwyddiad yn Wrecsam yn ystod oriau mân fore Sul.
Mae Paul Partington o Frychdyn Newydd wedi ei gyhuddo o aflonyddu hiliol, gan ddefnyddio geiriau sarhaus er mwyn achosi gofid.
Cafodd ei arestio ar 31 Awst, wedi honiadau i ddyn weiddi sylwadau hiliol tuag at yrrwr tacsi.
Ymddangosodd Paul Partington yn Llys Ynadon Wrecsam ddydd Llun a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.
Bydd yn ymddangos yn yr un llys eto ar 23 Medi.