Babi wedi marw'n sydyn yn y Rhondda
Cyhoeddodd Heddlu De Cymru fod babi 11 mis oed wedi marw'n sydyn yn Nhonypandy yn y Rhondda.
Cafodd y llu eu galw yno fore Llun.
Yn ôl yr heddlu, bydd presenoldeb yr heddlu yn amlwg yn yr ardal ar hyn o bryd.
Mae teulu'r plentyn wedi gofyn am breifatrwydd ar yr adeg hon.