Cynllun tocyn bws £1 i bobl ifanc yn dod i rym

Bws TFW

Bydd pobl ifanc yn gallu teithio am £1 ar fysiau yng Nghymru o ddydd Llun ymlaen.

O'r 1af o Fedi bydd unigolion rhwng 16 a 21 oed yn medru talu £1 am docyn sengl a £3 am docyn diwrnod.

Daw'r cynllun peilot yn sgil cytundeb Cyllid rhwng Llywodraeth Cymru ac Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds.

Bydd £15m yn cael ei rhoi gan y llywodraeth dros ddwy flynedd ariannol (2025-26 a 2026-27) i gefnogi'r cynllun.

Bydd yn rhaid i bobl ifanc wneud cais am gerdyn- FyNgherdynTeithio- er mwyn medru cael prisiau rhatach trwy wefan Trafnidiaeth Cymru. 

O fis Tachwedd ymlaen bydd plant rhwng 5 a 15 oed yn medru cael tocynnau rhad i deithio ar fysiau hefyd. 

Daw hyn wedi beirniadaeth am beidio eu cynnwys yn y cynllun gwreiddiol. 

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol mae'r newid ym mhrisiau'r tocynnau yn newyddion da i bobl ifanc.

Dywedodd Jane Dodds: "Mae argyfwng costau byw wedi taro pobl ifanc yn galed ond rŵan mi fydd pobl ifanc ar draws Cymru yn ffindio hi'n haws i deithio er mwyn cael addysg, cyfarfod ffrindiau ac yn allweddol i gael mynediad at swyddi."

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates yn dweud y bydd y cynllun yn "annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, lleihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â thlodi."

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.