
Gorfod achub dros 200 o adar yn dilyn storm
Fe wnaeth gwirfoddolwyr achub dros 200 o adar drycin Manaw ar arfordir Sir Benfro o fewn 24 awr dros y penwythnos, oherwydd “anhrefn llwyr” wedi’i achosi gan y tywydd stormus.
Mae’r nifer mwyaf yn y byd o adar drycin Manaw yn ymgartrefu ar Ynys Sgomer oddi ar arfordir Sir Benfro, gyda rhagor o'r adar yn byw ar Ynys Sgogwm.
Dywedodd gwasanaeth Manx Shearwater Rescue eu bod nhw wedi achub 206 o adar, ar ôl iddynt gael eu chwythu i draethau Sir Benfro dros gyfnod o 24 awr.
Roedd y nifer hwnnw'n cynrychioli dros chwarter o'r holl adar a achubwyd ganddyn nhw y llynedd.

“Roedd yn anhrefn llwyr o ganlyniad i’r môr tymhestlog,” meddai llefarydd ar ran Manx Shearwater Rescue.
“Roedd llawer iawn o alwadau o bob cwr o'r sir, gyda gwirfoddolwyr allan yn casglu adar oedd wedi mynd i drafferthion.
“Casglwyd llawer ohonyn nhw o amgylch ardal Aberllydan a dechreuodd llawer iawn o adar gyrraedd Traeth Niwgwl wedi eu golchi yno gan y tonnau stormus.
“Ond daeth y gymuned ynghyd gyda phobl leol, achubwyr bywyd ac ymwelwyr yn helpu i godi adar o'r dŵr.
“Ac yna fe aeth pedwar llwyth o geir â'r adar a achubwyd i leoliad diogel dan do lle gobeithiwn y gallant sychu cyn eu rhyddhau pan y bydd ychydig oriau tawelach.”
Gofynnodd yr achubwyr i bobl gadw llygad ar hyd yr arfordir, ond heb beryglu eu diogelwch eu hunain wrth geisio achub adar.