Y Cymoedd: Arestio dyn ifanc ar ôl bygythiad i fyfyrwyr mewn fideo
Mae dyn 21 oed wedi cael ei arestio ar ôl i fideo gael ei rhannu oedd yn cynnwys bygythiad i fyfyrwyr mewn coleg yn y cymoedd.
Ddydd Sul, fe gafodd Heddlu’r De wybod am fideo a gafodd ei rhannu ar Youtube oedd yn cynnwys bygythiad i fyfyrwyr Coleg Merthyr Tudful.
Dywedodd y llu eu bod bellach wedi arestio dyn 21 oed o ardal Gwent mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Mae’r dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa wrth i’r llu gynnal ymchwiliad er mwyn “deall yr amgylchiadau'n llawn.”
Llun: Coleg Merthyr Tudful