Dechrau ymgynghoriad ar ddyfodol rygbi Cymru

Undeb Rygbi Cymru

Mae'r ymgynghoriad ar ddyfodol rygbi Cymru wedi dechrau.

Bydd cyfle i gefnogwyr leisio barn trwy arolwg ar-lein ar strwythur y gêm.

Hefyd bydd y pedwar tîm rhanbarth proffesiynol sydd yn bodoli yng Nghymru- Caerdydd, y Dreigiau, y Scarlets a'r Gweilch yn cael dweud eu dweud a chlybiau ar lawr gwlad.

Mae'r ymgynghoriad yn para tan Fedi 26.

Mae Prif Weithredwr yr Undeb, Abi Tierney, wedi dweud yn barod nad yw'r status quo fel y mae yn medru parhau. 

Mae pedwar o opsiynau yn cael eu cyflwyno fel rhan o'r ymgynghoriad sef parhau gyda phedwar clwb ond gyda chyllid anghyfartal, tri chlwb gyda cyllid cyfartal, tri chlwb gyda cyllid anghyfartal neu dau glwb gyda cyllid cyfartal.

Er bod Undeb Rygbi Cymru yn dweud nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud maen nhw wedi dweud eu bod yn ffafrio'r opsiwn o ddau glwb.

Ond maent yn mynnu eu bod yn awyddus i "wrando" ar safbwyntiau pawb.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn gobeithio cael y strwythur newydd ar gyfer y gêm broffesiynol yn ei le erbyn tymor 2027/28 fan bellaf.

Bydd adroddiad yn cael ei anfon at fwrdd yr Undeb wedi'r ymgynghoriad ac mae disgwyl penderfyniad terfynol ddiwedd mis Hydref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.