Daeargryn Affganistan: Pryder bod cannoedd wedi marw
Mae yna bryder bod cannoedd o bobl wedi marw ar ôl i ddaeargryn daro Affganistan nos Sul.
Mewn datganiad ar X mae Llywodraeth Taliban y wlad wedi dweud bod y daeargryn wedi golygu bod pobl wedi "colli eu bywydau" a bod yna "ddifrod i eiddo" yn ardaloedd Dwyreiniol Affganistan.
Does yna ddim ffigwr pendant hyd yn hyn ynglŷn â faint o bobl sydd wedi eu lladd am fod yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio yn rhai anghysbell ac anodd eu cyrraedd.
Mae trigolion lleol wedi dweud wrth y BBC bod tirlithriadau a llifogydd wedi effeithio ar y ffyrdd sydd hefyd yn gwneud ymdrechion achub yn anodd.
O achos hyn mae hofrenyddion wedi bod yn cael eu defnyddio i gludo pobl o dalaith Kunar i faes awyr Nangarhar ac yna eu trosglwyddo i ysbytai lleol.
Mae'r Llywodraeth Taliban wedi apelio am gymorth brys gan fudiadau dyngarol rhyngwladol.
Llun: Llywodraeth Taliban