Llong unigryw o Beriw yn hwylio ger Ynys Môn
Cafodd trigolion Ynys Môn gyfle i weld llong unigryw o Beriw yn Ne America yn hwylio heibio'r ynys nos Wener.
Roedd y BAP Unión ar ei ffordd i Lerpwl, a bydd cyfle i bobl i fynd ar fwrdd y llong yn ystod ei hymweliad yno.
Fe wnaeth y BAP Unión, sydd yn llong ymarfer i lynges Periw, hwylio ger Moelfre a Benllech ar ddwyrain yr ynys.
Cafodd y llong ei hadeiladu rhwng 2012 a 2015 a dyma'r llong fwyaf o'i bath yn Lladin America.
Mae criw o tua 230 ar y llong fel arfer ac yn ogystal â'i swydd fel llong ymarfer i'r llynges, mae'n llysgennad ar gyfer Periw ar draws y byd.
Fe wnaeth y llong adael y wlad am y tro cyntaf yn 2016 ac ers hynny wedi ymweld â sawl gwlad ar draws y byd.