'Anghyfrifol' dewis Aaron Ramsey yng ngharfan Cymru ar ôl dychwelyd o anaf
Byddai dewis Aaron Ramsey yng ngharfan Cymru i wynebu Kazakhstan yn "anghyfrifol", meddai Craig Bellamy.
Fe wnaeth rheolwr Cymru gyhoeddi ei garfan ar gyfer y gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Kazakhtsan a gêm gyfeillgar yn erbyn Canada ddydd Iau.
Nid yw capten Cymru, Aaron Ramsey wedi cael ei gynnwys yn y garfan wedi iddo chwarae am y tro cyntaf ers pum mis dros y penwythnos.
Roedd y chwaraewr canol cae wedi dod oddi ar y fainc i'w glwb newydd Pumas ym Mecsico ar ôl dioddef anaf i'w linyn y gar.
"Ni fyddai wedi bod y deg ei gynnwys yn y garfan," meddai Bellamy.
"I deithio'r pellter o Fecsico, y gwahaniaeth amser rhwng Mecsico a Chymru a wedyn teithio i Kazakhstan, a disgwyl iddo chwarae rhan ar ôl peidio chwarae am gyfnod hir.
"Yn enwedig gydag anaf llinyn y gar, fe fyddai'n anghyfrifol i ni ei gynnwys neu ddisgwyl unrhyw beth ganddo.
"Dwi'n siarad gydag e [Ramsey] yn gyson. Y syniad yw iddo chwarae mwy, dychwelyd i ymarfer a chwarae eto.
"Os ydy e ar gael ac wedi chwarae llawer, ac mae hynny'n amlwg ar y cae ymarfer, fe fyddwn yn edrych eto."
Gwynebau newydd
Nid yw Ethan Ampadu wedi ei gynnwys yn y garfan chwaith, a hynny oherwydd anaf a ddioddefodd tra'n chwarae i Leeds United.
Ond mae lle i chwaraewyr di-gap wrth i amddiffynwyr Caerdydd Dylan Lawlor a Ronan Kpakio gael eu cynnwys yn ogystal â chwaraewyr canol cae Coventry City, Kai Andrews.
Bydd Cymru yn wynebu Kazakhstan yn Astana ar 4 Medi, cyn wynebu Canada mewn gêm gyfeillgar yn Abertawe ar 9 Medi.
Mae Cymru yn ail yn eu grŵp rhagbrofol ar hyn o bryd, gyda Gogledd Macedonia ar y brig a Gwlad Belg yn y trydydd safle.
Dyma'r garfan llawn: Karl Darlow (Leeds United), Adam Davies (Sheffield United), Danny Ward (Wrecsam), Ben Cabango (Abertawe), Jay Dasilva (Coventry City), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Ronan Kpakio (Caerdydd), Dylan Lawlor (Caerdydd), Chris Mepham (Bournemouth), Joe Rodon (Leeds United), Neco Williams (Nottingham Forest), Kai Andrews (Coventry City), David Brooks (Bournemouth), Charlie Crew (Doncaster Rovers - ar fenthyg o Leeds United), Jordan James (Stade Rennais), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Sorba Thomas (Stoke City), Harry Wilson (Fulham), Nathan Broadhead (Wrecsam), Liam Cullen (Abertawe), Mark Harris (Oxford United), Lewis Koumas (Birmingham City - ar fenthyg o Lerpwl), Daniel James (Leeds United), Brennan Johnson (Tottenham Hotspur), Kieffer Moore (Wrecsam).