
30 mlynedd o fynd Rownd a Rownd yng Nghilbedlam
Mae'r gyfres sebon poblogaidd Rownd a Rownd yn dathlu 30 mlynedd ers i ni gyfarfod cymeriadau lliwgar Cilbedlam am y tro cyntaf.
Fe gafodd y bennod gyntaf un o Rownd a Rownd ei darlledu ar S4C ar 11 Medi 1995, ac fe ddywedwyd ar y pryd mai dyma'r opera sebon iaith Geltaidd gyntaf yn benodol ar gyfer cynulleidfa ifanc.
Dros 30 mlynedd mae Rownd a Rownd wedi datblygu i fod yn un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C, gan ei bod hi bellach wedi tyfu ei hapêl ar gyfer y teulu cyfan, yn hytrach na chyfres ddrama ar gyfer pobl ifanc yn unig.

Roedd Rownd a Rownd wedi ei selio'n wreiddiol ar griw o bobl ifanc oedd yn gwneud rownd bapur newydd, ond ers hynny mae'r gyfres wedi tyfu i gynnwys straeon am fywydau teuluol yr holl gymeriadau.
Yn wreiddiol, roedd Phil Redmond, a oedd yn gyfrifol am gyfresi Grange Hill, Brookside a Hollyoaks yn y Saesneg, yn ymgynghorydd wrth i'r gyfres lansio yn 1995, gydag Robin Evans a Sue Waters yn gynhyrchwyr gwreiddiol i'r gyfres.
Erbyn hyn, cwmni Rondo sy'n cynhyrchu Rownd a Rownd, wedi i'r cwmni cynhyrchu gwreiddiol, Ffilmiau'r Nant ddod yn rhan o gwmni Rondo.

Mae'r gyfres wedi'i lleoli ar lan y Fenai yn Ynys Môn, gyda'r mwyafrif o'r lleoliadau ffilmio gwreiddiol bron yn ddi-eithriad yn nhref Porthaethwy, ond gyda threigl amser a'r galw am fwy o gyfleusterau, fe agorwyd stiwdio newydd aml bwrpas gan y cwmni cynhyrchu, ar ystad ddiwydiannol Llangefni, ac yno bellach mae nifer helaeth o'r setiau ar gyfer y gyfres.
Mae Rownd a Rownd wedi bod yn feithrinfa i nifer fawr o actorion Cymraeg, gydag Owain Arthur ymysg y mwyaf adnabyddus, a aeth ymlaen i ymddangos yn fwy diweddar yng nghyfres The Lord of the Rings: The Rings of Power.
Mae rhai o wynebau amlycaf o fyd y ddrama yng Nghymru hefyd wedi ymddangos yn y gyfres ar wahanol adegau, actorion yn cynnwys Mirain Haf, Lisa Jane Brown, Ifan Huw Dafydd, Gaynor Morgan Rees, Phylip Hughes a'r diweddar Dyfrig Evans a Dewi 'Pws' Morris,

Wrth siarad gydag aelod o dîm cynhyrchu Rownd a Rownd ar gyfer yr achlysur, fe gadarnhawyd fod 2,040 o bennodau wedi cael eu darlledu dros y 30 mlynedd ar S4C, a bod 40 pennod eisoes wedi eu ffilmio er mwyn eu darlledu dros y misoedd nesa' yn y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig.
Felly nos Iau, mi fydd pennod rhif 2,041 yn cael ei darlledu sr S4C.
Nid oes yr un o aelodau gwreiddiol y gyfres yn parhau i fod yn rhan ohonni, ond yr actorion Angharad Llwyd [Sophie], Elliw Haf [Glenda BCG] a John Glyn [Terry Philips] sydd wedi bod ar y gyfres am yr amser hiraf.
