Golau gwyrdd i adeiladu arena newydd ym Mae Caerdydd
Mae cynlluniau ar gyfer arena dan-do newydd yng Nghaerdydd, fydd â lle i 16,500 o bobl, wedi cymryd cam sylweddol ymlaen wrth i’r broses ariannol gael ei chadarnhau ar gyfer y prosiect.
Gyda’r bwriad o agor yn 2028, y gobaith yw y bydd yr arena newydd yn rhoi hwb economaidd i Fae Caerdydd.
Mae disgwyl i’r cynllun greu dros 1,000 o swyddi.
Cadarnhaodd Cyngor Caerdydd, ynghyd â’i phartneriaid datblygu Live Nation a Roberston Property, y cynlluniau ddydd Iau.
Y gobaith yw y bydd yr arena newydd yn denu miloedd ar filoedd o ymwelwyr i’r ddinas, gan adfywio Bae Caerdydd.
Ar gyfartaledd, mae mynychwyr sioeau arena yn y DU yn gwario rhwng £100 i £150 yn yr economi leol.
McLaren Construction sydd wedi’u penodi fel prif gontractwr, ac mae’r datblygwyr yn dweud bod y cynllun yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd a chyfleoedd cyflogi lleol drwy gydol y cyfnod adeiladu a thu hwnt.
Gyda cherddoriaeth fel prif ffocws yr arena, y bwriad yw denu artistiaid adnabyddus i’r brifddinas.
Mae’r arena yma yn rhan o ‘Strategaeth Dinas Gerddoriaeth’ Cyngor Caerdydd.
'Trawsnewid'
Mewn datganiad, dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: “Bydd yr arena yn trawsnewid y llif ymwelwyr i Gaerdydd, mewn ffordd sydd heb gael ei weld ers agoriad y stadiwm ym 1999.
“Mae'n fwy na dim ond adeiladau o gig a gwaed; mae'n gyfle i werthu Caerdydd fel dinas gyffrous a bywiog o ran cerddoriaeth a diwylliant.
“Bydd y prosiect yn cadarnhau bod Caerdydd yn parhau i ffynnu fel hwb greadigol. Mae’n sylfaen i’n Strategaeth Dinas Gerddoriaeth, sy’n bwriadu cefnogi bob rhan o sîn gerddoriaeth Caerdydd - o’r artistiaid i’r cynhyrchwyr, hyrwyddwyr a’r lleoliadau."
Ychwanegodd mai'r gobaith oedd sbarduno twf economaidd a gwerth cymdeithasol, “yn enwedig yn yr ardal o amgylch yr arena, gan greu swyddi a chodi gorwelion o fewn rhai o gymunedau mwyaf anfanteisiol Cymru.”
Yn ôl yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach, Jonathan Reynolds, mae’r prosiect yn “bleidlais glir arall o hyder” i’r economi a’r diwydiant creadigol yn y DU.
“Mae ein Strategaeth Ddiwydiannol Fodern yn gynllun beiddgar ar gyfer adnewyddu cenedlaethol, gyda’r nod o gynyddu’r buddsoddiad yn ein diwydiannau creadigol yn sylweddol,” dywedodd.
“Dw’i wrth fy modd bod yr arena newydd yma am greu dros 1,000 o swyddi newydd, yn rhoi hwb i economi Cymru ac i’r gymuned leol.”