Rhybudd melyn am gawodydd trwm o law mewn mannau

Glaw - Pier Bangor

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am gawodydd trymion o law ar gyfer rhannau o Gymru ddydd Iau - gyda rhybudd arall am law trwm fore dydd Gwener.

Mae disgwyl i gawodydd trwm effeithio'r canolbarth a rhannau o'r de am yr oriau nesaf. 

Bydd y cawodydd yn dod yn llai aml yn ddiweddarach yn y prynhawn, wrth i gyfeiriad y gwynt newid o'r de-orllewin i'r gorllewin.

Fe allai'r cawodydd arwain at lifogydd neu effeithio ar gyflenwad trydan.

Dywed y Swyddfa Dywydd y gallai'r cawodydd effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Merthyr Tudful
  • Nedd Port Talbot
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe

Ail rybudd

Mae rhybudd melyn am law wedi ei gyhoeddi ar gyfer nos Iau a dydd Gwener i ardal ehangach o Gymru hefyd.

Er na fydd cawodydd trwm na glaw ym mhobman, lle maen nhw'n digwydd mae 10-20 mm o law mewn llai nag awr yn bosibl. 

Mae 50-70 mm o law yn bosibl mewn ychydig oriau lle mae cawodydd trwm yn para'n hirach, mae hyn yn fwyaf tebygol ger yr arfordiroedd. 

Bydd rhywfaint o lifogydd yn yr ardaloedd gwlypach hyn yn bosibl. Gallai ychydig o gawodydd ddod gyda tharanau achlysurol, ac mae hyn yn fwy tebygol ger yr arfordiroedd.

Y siroedd dan sylw ar gyfer y rhybudd hwn rhwng 22:00 nos Iau a 12:00 ddydd Gwener yw:

  • Blaenau Gwent
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerffili
  • Caerdydd
  • Sir Gâr
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • Torfaen
  • Bro Morgannwg

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.