Yr FBI yn ymchwilio i saethu mewn ysgol yn Minneapolis fel 'trosedd casineb gwrth-Gatholig'
Mae'r FBI yn ymchwilio i achos o saethu mewn ysgol yn Minneapolis fel trosedd casineb gwrth-Gatholig ar ôl i ddau o blant gael eu lladd ac 17 o bobl eraill gael eu hanafu yn y digwyddiad.
Dywedodd Prif Swyddog Heddlu Minneapolis, Brian O'Hara, fod swyddogion wedi eu galw i Ysgol Gatholig y Cyfarchiad yn dilyn adroddiad o saethu yno.
Roedd dyn gyda gwn wedi dechrau saethu drwy ffenestri'r eglwys tuag at blant oedd yng nghanol gwasanaeth yr offeren fore Mercher, meddai.
Mae'r FBI bellach wedi cadarnhau mai dyn 23 oed o'r enw Robin Westman oedd yn gyfrifol am y saethu.
Maen nhw'n ymchwilio i'r digwyddiad fel "gweithred o derfysgaeth ddomestig" a "throsedd casineb yn targedu Catholigion".
Dywedodd Mr O'Hara brynhawn Mercher fod yr heddlu’n credu bod y dyn yn ei "ugeiniau cynnar" ac wedi gweithredu ar ei ben ei hun.
"Fe darodd blant ac addolwyr y tu mewn i'r adeilad," meddai.
"Roedd y saethwr wedi'i arfogi â reiffl, gwn saethu a phistol. Roedd hon yn weithred dreisgar fwriadol."
Ychwanegodd ei fod wedi marw a bod yr heddlu’n ceisio dod o hyd i gymhelliad am y saethu.
Cafodd dau o blant, wyth a 10 oed, eu lladd yn dilyn y saethu ac mae 17 o bobl eraill wedi'u hanafu.
Mae 14 o'r rhai gafodd eu hanafu'n blant, gyda dau ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.
Mae tri oedolyn yn eu 80au hefyd ymhlith y rhai a gafodd eu hanafu yn yr ymosodiad.
Llun: Reuters