Chwaraewr rygbi poblogaidd wedi marw'n sydyn yn 46 oed
Mae chwaraewr rygbi poblogaidd, sydd wedi cael ei ddisgrifio fel un o 'gymeriadau chwedlonol Merthyr', wedi marw'n sydyn yn 46 oed.
Bu farw Jamie Robbins, oedd yn gyn-chwaraewr rygbi lled-broffesiynol i Glwb Rygbi Merthyr, ar ddydd Mercher, Awst 20.
Fe gyhoeddodd Clwb Rygbi Merthyr y newyddion am farwolaeth Jamie ar eu cyfryngau cymdeithasol gyda'r datganiad canlynol: "Gyda thristwch dwfn yr ydym yn cyhoeddi marwolaeth ein cyfaill a'r cymeriad gwych, Jamie Robbins.
"Mae ein meddyliau a'n gweddïau'n mynd allan at deulu a ffrindiau agos Jamie. Gorffwys mewn hedd Jamie. Ti wedi mynd yn llawer rhy fuan."
Mae ei farwolaeth wedi bod yn "sioc fawr" i'r gymuned rygbi yn y de-ddwyrain, ac mae'r rhai oedd yn ei adnabod orau wedi ei ddisgrifio fel cyd-chwaraewr, tad a ffrind anhygoel.
Tyfodd Jamie i fyny ym Merthyr Tudful ac fe ymunodd â thimau ieuenctid Clwb Rygbi Merthyr, cyn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru pan oedd yn 16 oed.
Fel oedolyn chwaraeodd i garfannau tîm cyntaf Clwb Rygbi Merthyr yn ogystal â chyfnodau yn chwarae rygbi'r gynghrair i'r Cardiff Demons yn ystod misoedd yr haf. Roedd hefyd wedi treulio cyfnodau yn cynrychioli Hirwaun a Chlwb Rygbi Cefn Coed.
Disgrifiodd ei ffrind bore oes, Gareth Williams sut y "cyffyrddodd Jamie â chymaint o fywydau trwy ei gariad at y gêm ac ei fod o oedran ifanc iawn wastad o fewn cyrraedd pêl rygbi, lle bynnag yr oedd o.
"Ymunodd Jamie ag adran ieuenctid Clwb Rygbi Merthyr, i chwarae yn safle'r bachwr, lle ffynnodd dan ddylanwad chwaraewyr fel Robert a Peter Sidoli.
"Aeth ymlaen o'r tîm ieuenctid ym Merthyr yn dilyn cyfres o berfformiadau gwych, a ddenodd sylw hyfforddwyr y tîm cyntaf, gan ei alw i'r tîm cyntaf yn 19 oed.
"Cariad arall Jamie oedd rygbi'r gynghrair ac roedd yn cynrychioli'r Cardiff Demons yn ystod misoedd yr haf gan chwarae ochr yn ochr â chyn-seren Cymru Gethin Jenkins."
"Jamie yn sicr oedd yr un doniol, carismatig, ac 'yn arbenigwr ar dynu coes ym mhob tîm yr oedd ynddo, gan hawlio'i le fel un o gymeriadau chwedlonol Merthyr." ychwanegodd Mr Williams.