Llandeilo: Dau gerddwr wedi eu hanafu mewn gwrthdrawiad

Gwesty'r Cawdor

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio wedi i ddau gerddwr gael eu hanafu mewn gwrthdrawiad yn Llandeilo, Sir Gâr ddydd Llun.

Cafodd swyddogion eu galw i wrthdrawiad tu allan i westy’r Cawdor yn y dref am tua 13:00.

Dywedodd y llu fod dau gerddwr a cherbyd yn gysylltiedig â’r gwrthdrawiad ar Stryd Rhosmaen.

Cafodd y ddau gerddwr eu cludo i’r ysbyty, meddai’r llu.

Roedd y ffordd ar gau am bron i ddwy awr cyn ail-agor yn ddiweddarach yn y prynhawn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.