Cwpl a gollodd eu babi yn rhan o apêl i godi £400,000 mewn 60 awr
Rhybudd: Mae'r erthygl ganlynol yn trafod colli plentyn.
Mae cwpl a gollodd eu mab yn wyth diwrnod oed yn rhannu eu stori fel rhan o apêl newydd Hosbis Plant Tŷ Hafan.
Nôd yr apêl yw i godi £400,000 mewn 60 awr ar ran yr elusen.
Bu farw Emrys Arthur yn wyth diwrnod oed ar 14 Mawrth 2024, wedi iddo gael ei eni'n gynnar wedi 25 wythnos.
Cafodd ei rieni Gwenno George a Luke Nicholas, sy'n byw yng Nghaerdydd, gefnogaeth Tŷ Hafan i anfon corff eu mab i dref enedigol Gwenno, Cricieth yng Ngwynedd.
Fe gafodd ei gladdu ochr yn ochr ag aelodau eraill o deulu Gwenno.
"Fe gawson ni wyth diwrnod gydag Emrys,” meddai Gwenno. “Fydd e’ byth yn ddigon, ond roedden ni'n lwcus i gael wyth diwrnod gwerthfawr.”
Mae Gwenno a'i phartner Luke wedi cael cwnsela drwy Tŷ Hafan.
"Rwy'n teimlo'n lwcus iawn bod ganddon ni’r gefnogaeth ychwanegol hon, y teulu ychwanegol hwn, yn Tŷ Hafan," meddai.
"Rwy'n ei chael hi'n anodd meddwl am deuluoedd neu gyplau sy'n gorfod mynd trwy'r hyn rydyn ni wedi bod drwyddo heb gefnogaeth Tŷ Hafan."
Fe fydd y rhoddion a fydd yn cael eu gwneud yn yr apêl o fewn y 60 awr, a fydd yn dechrau am 10:00 ddydd Sul 23 Tachwedd ac yn gorffen am 22:00 ddydd Mawrth 25 Tachwedd yn cael eu dyblu diolch i gronfa arian gyfatebol sydd wedi ei chreu gan yr elusen.
Mae Kath Keeble o Ferthyr Tudful hefyd yn rhannu ei stori wedi iddi golli ei mab Tommy, yn wyth diwrnod oed.
Bu farw Tommy ar ôl cael ei eni'n gynamserol yn 31 wythnos oed.
"Ar ôl i Tommy farw, fe wnaeth fy mywyd chwalu rhywfaint ac fe wnes i fynd yn sâl iawn gyda meddyliau yn ymwneud â hunanladdiad. Roeddwn i jyst eisiau bod gydag e’," meddai.
"Yn y pen draw, fe ges i fy nerbyn i ward iechyd meddwl ac yn araf, yn araf iawn, fe wnaethon nhw fy helpu i sylweddoli nad oeddwn i'n fam ddrwg oherwydd doeddwn i ddim eisiau i Tommy fynd. "
Dywedodd Dan Bamsey, Pennaeth Codi Arian Tŷ Hafan: "Hoffem ddiolch i Gwenno, Luke a Kath am eu dewrder anhygoel wrth rannu straeon Emrys a Tommy gyda ni i gefnogi ein Hapêl Pob Bywyd Gwerthfawr.
"Cafodd 21 o fabanod 28 diwrnod oed ac iau eu cyfeirio atom yn 2023/2024, a 39 yn 2024/2025. Ac yn ystod chwe mis cyntaf eleni, rydyn ni eisoes wedi cael 22 o atgyfeiriadau."