Arestio dyn ar ôl tân amheus mewn campfa newydd yn Llandysul
Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o losgi bwriadol ôl tân amheus mewn campfa newydd ar leoliad hen ysgol uwchradd yn Llandysul, Ceredigion.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod y dyn 37 oed wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymchwiliadau’r heddlu yn parhau.
Fe wnaeth yr heddlu dderbyn adroddiad am dân mewn adeilad masnachol ar Heol Llyn y Fran, Llandysul am 06.00 ddydd Iau, 13 Tachwedd, medden nhw.
Ni chafodd unrhyw un ei anafu.
“Mae’r tân yn cael ei drin fel un amheus ar hyn o bryd,” meddai’r heddlu.
Agorodd campfa Y Gampfa ei drysau ar 1 Tachwedd ar hen safle Ysgol Dyffryn Teifi, a gaeodd yn 2016.

