Cwest yn clywed fod babi wedi marw ar ôl cael ei frathu gan gi XL Bully
Mae cwest agoriadol i farwolaeth bachgen naw mis oed a gafodd ei ladd gan gi XL Bully yn Sir Fynwy wedi clywed ei fod wedi marw o anaf i'w ben yn gysylltiedig â brathiad gan gi.
Cafodd Jonte William Bluck ei frathu gan y ci tra'n aros yng nghartref ei dad yn ardal stryd Crossway, Rogiet, sef cymuned y tu allan i Gil-y-coed, ar 2 Tachwedd.
Fe gafodd y cwest ei agor ddydd Llun ond fe gafodd ei ohirio tan fis Awst y flwyddyn nesaf tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.
Dywedodd crwner yr ardal Rose Farmer: "Fe fuodd Jonte William Bluck farw ar 2 Tachwedd yn ei gyfeiriad cartref.
"Yr amgylchiadau cryno ydy ei fod yn aros yng nghartref ei dad ar 2 Tachwedd pan y cafodd ei frathu gan yr anifail anwes teuluol.
"Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Y Faenor ond fe fuodd farw cyn cyrraedd."
Ychwanegodd y crwner: "Mae cwest wedi ei agor gan fod lle i amau ei fod wedi marw o ganlyniad i frathiad gan gi."
Fe gafodd achos marwolaeth dros dro ei gofnodi fel anaf i'w ben yn gysylltiedig â brathiad gan gi.
Yn dilyn ei farwolaeth, fe gafodd dyn yn ei 30au a menyw yn ei 20au o Rogiet eu harestio ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am gi a oedd allan o reolaeth mewn ffordd beryglus gan achosi anaf a arweiniodd at farwolaeth.
Fe gafodd y ddau berson hefyd eu harestio ar amheuaeth o esgeulustod plentyn.
Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau barhau.
Roedd y ci yn frîd XL Bully chwe oed ac fe gafodd ei ddifa yn dilyn y digwyddiad.
