Kim Jong Un, Putin a Xi Jinping i fynychu gorymdaith filwrol yn Beijing
Mae disgwyl y bydd arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, yn mynychu gorymdaith filwrol yn Beijing yr wythnos nesaf, gan sefyll ochr yn ochr â Vladimir Putin o Rwsia, yn ystod y digwyddiad.
Dyma gyfarfod rhyngwladol amlochrog cyntaf Kim Jong, gan sicrhau fod y digwyddiad yn fuddugoliaeth ddiplomyddol sylweddol i Arlywydd China, Xi Jinping sydd wedi bod yn pwyso am drefn fyd-eang newydd dan arweiniad Beijing.
Mae cynnal y digwyddiad yn galluogi i Xi ddangos ei ddylanwad - er yn gyfyngedig ar hyn o bryd - a hynny ar adeg pan mae Washington yn ceisio sicrhau cytundeb gyda Moscow i ddod â'r rhyfel yn yr Wcrain i ben.
Ni fydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump yn mynychu'r orymdaith, ond dywedodd yn gynharach yn yr wythnos ei fod am gwrdd â Kim, gan fod ei storfa o arfau niwclear cynyddol a'i gefnogaeth i Rwsia wedi cynhyrfu'r Gorllewin.