Caernarfon: Teyrngedau i gyn-gynghorydd 'oedd ag amser i bawb'
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i’r cyn-gynghorydd W. Tudor Owen o Gaernarfon, a fu farw dros y penwythnos.
Roedd yn cynrychioli ward Peblig ar Gyngor Gwynedd rhwng Mai 1996 a Mai 2017, a bu’n Gadeirydd y Cyngor rhwng 2010-11.
Bu’n aelod o’r hen Gyngor Arfon cyn sefydlu Cyngor Gwynedd yn 1996.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Cadeirydd Cyngor Gwynedd: “Roedd yn ddrwg iawn gennym glywed fod Tudor Owen wedi ein gadael.
"Roedd yn berson hwyliog, bob amser gyda gwên ar ei wyneb ac amser i bawb.
“Gweithiodd yn galed dros Gaernarfon, ei dref enedigol, ac yn benodol dros ward Peblig. Dangosodd ymroddiad rhyfeddol dros nifer o flynyddoedd i Ganolfan Noddfa ac mae pobl Caernarfon yn parhau i gael budd o’i waith hyd heddiw.
“Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at deulu a ffrindiau Tudor ar yr adeg anodd hyn.”
Dywedodd Sian Gwenllian AS, aelod Plaid Cymru o'r Senedd dros Arfon: "Gwasanaethodd Tudor ei gymuned gydag ymroddiad am ddegawdau, ac roedd yn aelod o’r Cyngor Tref hyd y diwedd – sy’n arwydd clir o'i ymrwymiad diflino i'r dref oedd mor annwyl ganddo.
"Yn ddyn Caernarfon o’i gorun i’w sawdl, roedd yn falch iawn o'i dref enedigol, a gwn ei fod yn ei hystyried yn fraint cael gwasanaethu fel Maer.
"Roedd yn gynghorydd adnabyddus a gweithgar, a oedd yn uchel ei barch gan gynifer o bobl yn y dref."
Llun: Cyngor Gwynedd