Llai wedi prynu ail gartref yng Ngwynedd ers rheol Erthygl 4
Llai wedi prynu ail gartref yng Ngwynedd ers rheol Erthygl 4
Mae 'na newid ym Morfa Nefyn.
Sdim rhaid crwydro'n bell i sylwi bod y farchnad dai ar dan.
Ond ydyn nhw o fewn cyrraedd y bobl leol ac yn ddigon i'w cadw nhw yma?
"Na, oherwydd bod nhw dal yn bris rhy uchel i rywun fel fi."
"The wages need to go up so that local people can afford to buy.
"They should have a right to buy."
Ers blynyddoedd, mae 'na ymdrech i ostwng prisiau tai cyfyngu ar nifer yr ail gartrefi a chadw'r ifanc rhag symud oddi yma.
Treth, rheolau cynllunio.
Mae gan y cyngor sawl ffordd o geisio dylanwadu ar y farchnad dai.
Ond, nid pawb sy'n cyntuno a'r hyn sy'n digwydd yng Ngwynedd.
"Roedd o'n gartref i mi.
"Ar ol i Mam a Dad farw, wnes i osod o ar long-term let.
"Wnaeth o'm gweithio allan a dw i 'di decidio gwneud o'n holiday let."
Mae William Owen yn trosi'r cartref lle gafodd ei fagu yn llety gwyliau.
"Mae mewn pentref Morfa Nefyn sy'n bentref sy 'di bod erioed ers dw i'n blentyn a dw i dros 50 yn le poblogaidd efo tai haf ac mae lot yn licio dod yma."
Y'ch chi'n gweld pam bod rhai'n dweud i chi gyfrannu at y broblem?
"Dw i'n gweld hi'n hollol fel arall.
"Mae Morfa Nefyn yn le i bobl ddod ar eu gwyliau am flynyddoedd.
"Yn lle bod fi'n gwerthu'r ty fel ail dy bydd hwn yn le i bobl ddod i ddefnyddio a rhoi pres i'r ardal."
Ar draws yr ardal, mae teimladau cryfion ar naill ochr y ddadl.
Sut mae cydbwyso'r angen am dai i bobl leol y nifer o lety gwyliau a nifer yr ail gartrefi.
Ym Morfa Nefyn, dw i 'di siarad a nifer o berchnogion ail gartrefi.
Nifer wedi teithio dros y ffin o Loegr ac yn berchen ar eu cartrefi.
Doedd y rhan fwyaf ddim am siarad ar gamera achos bod o'n bwnc sensitif.
Serch hynny, wnaeth un gytuno i siarad efo fi.
"This is my second home but I spend equal time in both.
"I retired five years ago."
Dyma ail gartref Nick Brown sy'n dod o Swydd Efrog.
Mae'n deall yr angen i gefnogi pobl ifanc i fyw yn lleol, ond nad yw'r mesurau sydd ar waith yn gwneud lles.
"It's gone too far and the real problem here for the locals is jobs.
"It's jobs that people are after.
"It's brought down prices and second homes pay more in Council Tax and a number of people are selling up."
Do you find and see yourself as part of the issue?
"I think so, yes. I'm very conscious of it.
"It's made me think twice and a lot around here are thinking twice.
"I don't see that it will fix the issues."
Gyda mwy yn ystyried gwerthu, dweud mae nifer nad yw'n golygu bod y tai sy'n weddill yn fforddiadwy i'r ifanc.
Mae Iwan Rhys Evans yn 23 oed ac yn byw ym Morfa Nefyn.
Yr un peth 'dan ni eisiau ydy gwarchod ein cymunedau Cymreig.
"Sgynnon ni ddim byd yn erbyn y Saeson na thwristiaeth, ond bod chi'n dod ar eich gwyliau a ddim yn amharchu'n cymunedau.
"Unwaith mae'r cymunedau Cymreig 'di mynd maen nhw 'di mynd am byth ac mae'n hanfodol bod ni'n gwarchod nhw."
Mae'r gymhariaeth efo Abersoch felly ai dyma ydy'r Abersoch nesaf?
"Roedd 'na adeg lle ro'n i'n agos i ddod yn Abersoch arall.
"'Dan ni 'di dysgu a gweld beth yw effaith ail dai i gymunedau.
"Dw i'n falch i ddweud bod Morfa Nefyn wedi cael ei achub."
Mae taro cydbwysedd a phlesio pawb yn anodd.
Tai, iaith, gwaith - mae 'na gwlwm pwysig rhwng y tri.
Does 'na'm modd osgoi bod newid ar droed.
A fydd hynny'n ddigon i ddiogelu cymunedau Cymraeg?
Mae sawl un yma'n amau hynny.