Mwy o bobl yn aros o fewn y DU i fynd ar eu gwyliau
Mwy o bobl yn aros o fewn y DU i fynd ar eu gwyliau
Tra bod yr haul yn disgleirio roedd traeth a thonnau Porthcawl yn parhau i ddenu ymwelwyr heddiw.
Cwpl o filtiroedd i ffwrdd ym Mhen-y-bont...
"Helo, sut mae?"
Iawn, diolch.
Mae Huw yn rhedeg busnes gwely a brecwast.
Pa fath o bobl sy'n dod yma i aros, Huw?
"Pob math fel pobl ar eu gwyliau, rhai'n cerdded Llwybr yr Arfordir, angladdau, priodasau, ymwelwyr cyffredinol, pobl busnes."
Sut mae'r haf wedi bod hyd yma?
"Mae 'di bod yn haf bendigedig ond yn haf anodd hefyd.
"Er bod ni 'di bod yn gymharol llawn, yn 88% neu 90% ar adegau y broblem fwyaf oedd y digwyddiadau undydd.
"Mae'n rhaid newid yr adeilad mewn diwrnod a mynd eto y diwrnod wedyn."
A chanlyniad hynny ydy...
"Mae costau a'r elw wedi bod yn isel i gymharu ag arfer oherwydd hynny.
"Y golchi, hala'r stwff i ffwrdd i'w lanhau yn y golchdy yng Nghaerdydd.
"Mae'r costau 'di mynd i fyny gyda nwy, trydan a dŵr.
"Mae chwe chawod yma a'r peiriant golchi ymlaen sawl gwaith y dydd, felly mae'r costau hynny wedi negyddu'r elw."
Yn ôl arbenigwyr o fewn y diwydiant twristiaeth mae mwy yn aros o fewn y DU i fynd ar eu gwyliau.
Hynny oherwydd y gost a'r awydd i wneud y mwyaf o'r amser i ffwrdd.
Mae apel Cymru'n parhau i fod yn gryf.
"Mae diddordeb gydag ymwelwyr mewn gwario amser yn yr awyr agored, ein golygfeydd godidog, ein bwyd a diod lleol gwych ni a hefyd ein hanes
a'n treftadaeth ni.
"Mae ymwelwyr i Gymru yn gwario oddeutu £3.8 biliwn bob blwyddyn ac mae'r ffigwr yna'n mynd i fyny.
"Mae'n amlwg bod costau byw'n cael effaith ar ddewisiadau pobl."
Beth mae rhai o bobl Caernarfon wedi'u gwneud dros yr haf?
"Mae lot yn mynd i gampio.
"Pan mae'r tywydd yn braf, mae Cymru'n gret am staycation."
"Eleni, dw i'm 'di bod tramor ond wedi mynd i Lundain am benwythnos ac i Taunton am benwythnos hir.
"Os yw'r tywydd gen ti, gei di nunlle gwell na gogledd Cymru."
"Yn y blynyddoedd diwethaf, 'dan ni 'di gwneud mwy o staycations.
"Ar ol Covid, ddaru bobl sylwi bod llefydd lyfli adref ond mae pawb yn dueddol o fynd abroad unwaith y flwyddyn."
Mae seibiant byrach a threfnu munud olaf yn fwy poblogaidd.
Arwydd fod patrymau gwyliau rhai pobl o bosib yn newid.