Ynys Môn: Carcharu dyn ar ôl iddo ddifrodi ceir gyda bat criced
Mae dyn 30 oed wedi cael ei garcharu ar ôl iddo ddifrodi ceir gyda bat criced ar Ynys Môn.
Roedd James Clements o Fae Cemaes hefyd wedi chwistrellu graffiti mewn gwahanol leoliadau ar draws Caergybi ym mis Gorffennaf.
Fe wnaeth achosi difrod i ddau gar gyda bat criced ym Mae Cemaes ar 9 Awst.
Fe wnaeth ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno ar 11 Awst wedi'i gyhuddo o ddifrod troseddol.
Cyfaddefodd i'r troseddau a chafodd ei garcharu am 12 wythnos.
Dywedodd y Rhingyll Becci Harrison: “Hoffwn ddiolch i aelodau'r cyhoedd ac asiantaethau eraill am eu cymorth a'u cefnogaeth yn dilyn y digwyddiadau hyn.
“Mae cael cefnogaeth y gymuned leol yn hanfodol i ni sicrhau'r dystiolaeth sydd ei hangen i ddod â throseddwyr gerbron y llys.”