Dyn o ogledd Cymru wedi defnyddio Alexa i stelcian ei gyn-bartner
Bydd dyn o ogledd Cymru yn cael ei fonitro am y chwe mis nesaf ar ôl iddo ddefnyddio Alexa i stelcian ei gyn-bartner.
Roedd Ryan Allen, 29 oed, o'r Fflint wedi defnyddio'r ddyfais electronig gan gwmni Amazon i adael negeseuon llais yn nhŷ ei gyn-bartner.
Dywedodd ei gyfreithiwr, Gary Harvey, wrth y llys yn Wrecsam: "Yn 29 oed nid yw'n gallu gweithio oherwydd ei broblemau iechyd meddwl, sydd ddim yn cael eu helpu gan ei ddefnydd o alcohol a chyffuriau.
"Roedd yn edifar yn ei amser â'r gwasanaeth prawf."
Fe wnaeth y barnwr, Anita Price, roi gorchymyn cymunedol am gyfnod o 12 mis iddo.
Mae hi wedi rhoi gorchymyn iddo wisgo tag alcohol am 120 diwrnod yn ogystal â thag arall a fydd yn monitro ei leoliad am chwe mis.
Fe gafodd Allen hefyd orchymyn atal am gyfnod o ddwy flynedd a gorchymyn i dalu £199 mewn costau.
"Bydd angen i chi weithio gyda'r gwasanaeth prawf nawr," meddai'r Barnwr Price wrtho yn y gwrandawiad.
Ychwanegodd: "Rydych chi eich hun wedi nodi, yn sicr o'r adroddiad, fod eich merch wedi dioddef o ganlyniad i'ch troseddu – rhywbeth rwy'n credu eich bod wedi ei gymryd i ystyriaeth."
'Natur ddomestig'
Dywedodd y Barnwr Price fod yr achos wedi’i waethygu gan ei fod o natur ddomestig a bod ei gyn-bartner wedi bod yn feichiog ar y pryd.
Cyfaddefodd Allen iddo stelcio Jessica Keeley yn yr Wyddgrug ym mis Mehefin a mis Gorffennaf drwy fynd i'w chartref a gadael negeseuon llais. Plediodd yn euog hefyd i ddifrod troseddol drwy dynnu "wyneb gwenu" mewn gwaed ar ei wal.
Dywedodd James Ashton ar ran yr erlyniad nad oedd Miss Keeley eisiau unrhyw gyswllt â’r diffynnydd.
"Mae ymddygiad Ryan yn fy nychryn. Mae wedi gwneud i mi deimlo’n agored i niwed yn fy nghartref fy hun," meddai mewn datganiad.
Yn ôl yr erlynydd roedd y cwpl wedi gwahanu pum mlynedd yn ôl ac fe wnaeth Miss Keeley symud ymlaen i berthynas newydd. Daeth yn feichiog ac roedd hi'n teimlo fod hyn wedi gwaethygu ymddygiad ei chyn-bartner.
Ym mis Mehefin, meddai, fe aeth y diffynnydd i'w chartref yn feddw gyda'i fawd wedi'i dorri.
Y mis diwethaf, derbyniodd y dioddefwr nifer o alwadau yn gysylltiedig â llysfam Allen: "Mae'n ei ffonio gan ddefnyddio dyfais Alexa ei lysfam ac wedi gadael wyth neges llais a ddisgrifiwyd fel rhai di-synnwyr."
Hefyd y mis diwethaf, fe aeth Allen i gartref Miss Keeley gan weiddi: "Jess, dw i angen dy help." Roedd arogl alcohol arno.
Tridiau yn ddiweddarach, fe aeth i mewn i'w chartref trwy ddrws heb ei gloi a chyflawni'r difrod.
Dywedodd Mr Harvey: "Mae'n dweud ei fod wedi rhoi'r gorau i alcohol ers hynny.
"Nid yw'n gwrthwynebu'r gorchymyn atal."