Heddlu yn Awstralia yn dal i chwilio am ddyn sydd wedi ei amau o ladd dau blismon
Mae’r heddlu yn Awstralia yn parhau i chwilio am ddyn arfog sydd wedi ei amau o saethu a lladd dau blismon mewn tref wledig yn nhalaith Victoria.
Roedd swyddogion yr heddlu wedi teithio i eiddo yn nhref Porepunkah tua 300 cilomedr (186 milltir) i’r gogledd ddwyrain o Melbourne ddydd Mawrth i weithredu gwarant am droseddau rhywiol honedig.
Fe saethwyd atynt a lladdwyd dau heddwas, y Prif Gwnstabl Ditectif Neal Thompson a'r Uwch Gwnstabl Vadim De Waart.
Mae'r heddlu wedi enwi dyn lleol Dezi Freeman, 56 oed, fel y dyn dan amheuaeth ac wedi cadarnhau ei fod "yn dal ar goll".
Mae'r heddlu wedi rhybuddio pobl leol i aros y tu mewn nes bod Mr Freeman yn cael ei ddal.
Dywedodd Prif Gomisiynydd Heddlu Victoria, Mike Bush: "Rydym yn defnyddio pob adnodd i'r chwilio.
"Byddwch yn wyliadwrus, cadwch eich hunain yn ddiogel.
"Mae trydydd swyddog a anafwyd yn y saethu bellach allan o lawdriniaeth, meddai Mr Bush, ac er ei fod wedi'i "niweidio'n sylweddol" byddai'n gwella.
Nid yw'r awdurdodau wedi gweld Mr Freeman ers iddo redeg i ffwrdd ar ôl y saethu, ac maent yn canolbwyntio ar "ardal drwchus o lwyni" ger ei gartref.
Ychwanegodd Mr Bush: "Bydd yn adnabod yr ardal honno'n well na ni felly dyna pam rydym yn defnyddio pob arbenigwr, gyda chefnogaeth gwybodaeth leol.
"Ein dealltwriaeth ni yw ei fod yn deall crefft y gwyllt yn dda sy'n rhoi her i ni."
Wedi'i amgylchynu gan fryniau coediog iawn yn Alpau Awstralia, dim ond tua awr o daith mewn car o ffin New South Wales yw Porepunkah.
Dywedodd Mr Bush fod yr heddlu'n chwilio ardal "eang iawn, iawn" ac maent hefyd yn archwilio a allai Mr Freeman fod wedi gadael y dalaith - er nad oes "unrhyw wybodaeth" ar hyn o bryd i awgrymu bod hynny wedi digwydd.
Mae cyfryngau Awstralia wedi adrodd bod Mr Freeman yn "ddinesydd sofran", gan gyfeirio at berson sy'n credu nad yw'n ddarostyngedig i gyfreithiau ac awdurdod llywodraeth Awstralia.