Bydd prawf argyfwng arall yn cael ei gynnal ar hyd a lled y Deyrnas Unedig ddydd Sul 7 Medi. 

Cafodd y cyntaf ei gynnal yn 2023 wrth i larwm ganu ar ffonau symudol. 

Tua 15:00 ar 7 Medi, bydd ffonau symudol sydd wedi eu cysylltu i rwydweithiau 4G a 5G yn dirgrynu a bydd seiren i'w chlywed am hyd at 10 eiliad.  

Bydd neges destun yn cael ei hanfon hefyd yn cyhoeddi'n glir mai prawf sy'n cael ei gynnal.  

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi defnyddio'r system bum gwaith er mwyn cyhoeddi rhybuddion go iawn am berygl.  

Cafodd 3.5 milliwn o bobl ar hyd a lled Cymru a de orllewin Lloegr rybudd ar eu ffonau symudol wrth i Storm Darragh daro fis Rhagfyr diwethaf. 

Ond nid rhybuddion tywydd yn unig sy'n cael eu cyhoeddi.  

Cafodd rhybudd ei anfon i ryw 50,000 o ffonau symudol yn Plymouth, de Lloegr fis Chwefror wedi i fom o'r Ail Ryfel Byd gael ei ddarganfod mewn gardd.   

Yn ôl Llywodraeth San Steffan, mae'r profion a'r rhybuddion yn allweddol, er mwyn cadw pawb yn ddiogel mewn sefyllfaoedd peryglus, am fod pob munud yn cyfrif.