Sir Benfro: Cynllun tai wedi’i dynnu'n ôl yn Llandudoch
Mae cynllun ar gyfer 29 o dai, ym mhentref Llandudoch yng ngogledd Sir Benfro, wedi'i dynnu'n ôl.
Roedd Obsidian Homes Ltd, o Hendy-gwyn, Sir Gaerfyrddin wedi cyflwyno cais yn 2024 ar gyfer y tai, oedd yn cynnwys dwy uned fforddiadwy, ar gyfer y datblygiad a'r gwaith cysylltiedig ar dir amaethyddol oddi ar Fanc Longdown, yn ne-ddwyrain y pentref.
Mewn datganiad ar y pryd dywedodd y cwmni: “Mae gennym weledigaeth glir ar gyfer y safle datblygu hwn i ddarparu 29 o dai sydd eu hangen yn fawr ar gyfer yr ardal ynghyd â darparu tai fforddiadwy sydd unwaith eto eu hangen yn fawr yn y rhanbarth.
“Mae’r cynllun yn darparu unedau tai fforddiadwy ar gyfer y boblogaeth leol yn ogystal ag unedau gwerthu marchnad agored, i gyd o fewn y safle.
“Mae eiddo fforddiadwy wedi’u lleoli ochr yn ochr â’r unedau gwerthu marchnad agored i sicrhau cymuned gydlynol a chymysg o drigolion newydd.”
Roedd y cynllun arfaethedig yn cynnig tai o ddwy i bum ystafell wely, a fyddai, yn ôl yr ymgeiswyr, wedi “yn mynd yn bell i ddiwallu’r stoc sydd ei hangen yn yr ardal leol.”
Ychwanegodd Obsidian: “Bydd y datblygiad hwn yn barhad naturiol o’r pentref ac yn darparu stoc tai sydd ei hangen yn fawr ar gyfer yr ardal ochr yn ochr ag unedau fforddiadwy sy’n diwallu anghenion y gymuned leol.
Roedd y cynlluniau, yn ôl y cwmni hefyd yn cynnig “creu cynefinoedd, coetir a choed wedi’u cadw, nodweddion draenio cynaliadwy, lle chwarae anffurfiol a hamdden ar lwybr ffitrwydd”.
Roedd Cyngor Cymuned Llandudoch wedi gofyn, pe bai’r cais yn cael ei gyfeirio at y pwyllgor cynllunio, y byddai aelodau’r pwyllgor yn cynnal ymweliad â’r safle cyn eu trafodaethau.
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i'r cwmni am sylw.