Teulu ‘wedi’u dinistrio’ ar ôl i hofrennydd daro’r ddaear gan ladd tri o bobl

Justyna Czoska a Wojtek Kowalkowski

Mae teulu dau o bobl a gafodd eu lladd ar ôl i hofrennydd daro’r ddaear ar Ynys Wyth yn ne Lloegr wedi dweud eu bod ‘wedi’u dinistrio’ gan y digwyddiad.

Mae teulu Justyna Czoska a'i phartner Wojtek Kowalkowski, o Bloxham, Sir Rydychen, wedi sefydlu apêl ariannol am gymorth i dalu costau, er mwyn cludo'r ddau yn ôl i’w gwlad enedigol, Gwlad Pwyl, fel y gellir eu claddu yno gyda’u teuluoedd.

Mae’r apêl wedi ei sefydlu gan Jacob Butler, sef partner merch Justyna, Julia.

Cafodd tri o bobl eu lladd, a chafodd un arall ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol ar ôl i’r hofrennydd Robinson R44 II ddisgyn yn ystod gwers hedfan ger yr A3020 Shanklin Road fore Llun.

Dywedodd Mr Butler: “Ar 25 Awst, collodd mam annwyl fy mhartner a’i phartner eu bywydau’n drasig mewn damwain hofrennydd ar Ynys Wyth.

“Mae’r digwyddiad sydyn a dinistriol hwn wedi torri ein calonnau ac rydym yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’r golled.

“Rydym nawr yn ceisio dod â’r ddau yn ôl i Wlad Pwyl fel y gellir eu claddu gyda’u teuluoedd, yn y lle maen nhw’n ei alw’n gartref.

“Mae cost eu dychwelyd, trefniadau angladd, a theithio yn fwy nag y gallwn ni ei reoli ar ein pennau ein hunain, ac rydym yn gofyn am gefnogaeth yn ystod yr amser anodd hwn.

'Y fam orau' 

Dywedodd Julia Buzar: “Does gen i ddim geiriau, am i’r byd gymryd fy mam yn rhy fuan, hi oedd y fam orau y gallech chi ofyn amdani, yn cael ei charu gan bawb. 

"Doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n ysgrifennu rhywbeth fel hyn. 

"Os gwelwch yn dda, pe bai unrhyw un yn gallu helpu i’w cludo yn ôl i Wlad Pwyl fel y gallant fod gyda’u teuluoedd, byddai’n golygu’r byd i mi. Gorffwys mewn heddwch Mam a Wojtek.”

Dywedodd llefarydd ar ran Northumbria Helicopters mai eu hawyren G-OCLV – sydd wedi’i restru fel hofrennydd Robinson R44 II – oedd yn y ddamwain yn ystod gwers hedfan.

Dywedodd y cwmni: “Roedd yr hediad, a adawodd Faes Awyr Sandown tua 9am, yn cludo pedwar teithiwr, gan gynnwys y peilot, ac roedd yn ymgymryd â gwers hedfan.”

Dywedodd tyst, Leigh Goldsmith, wrth Isle of Wight County Press ei bod yn gyrru tuag at Shanklin pan welodd yr hofrennydd yn “troelli” cyn iddo fynd o’r golwg a dod i lawr mewn gwrych.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.