Apêl codi arian wedi marwolaeth dyn 36 oed yn Eryri

Thomas Smith

Mae cymar dyn a fu farw tra'n dringo yn Eryri wedi dechrau apêl i godi arian ar gyfer Tîm Achub Mynydd Llanberis. 

Bu farw Thomas Smith yn 36 oed ar 16 Awst, ar ôl iddo ddisgyn ar fynydd Crib Goch. 

Cafodd ei gludo o'r mynydd mewn hofrennydd ond roedd wedi marw yn y fan a'r lle.

Dywedodd ei bartner Shelly Price bod y teulu yn dymuno codi gymaint o arian â phosibl ar gyfer y tîm achub, er cof amdano.  

"Rydym eisiau sicrhau bod y tîm arbennig hwn o wirfoddolwyr yn medru parhau â'u gwaith allweddol," meddai.  

"Ar 16 Awst, roedd fy mhartner a thad ein plant, Tom yn cerdded yn un o'r llefydd yr oedd yn ei garu fwyaf, sef Parc Cenedlaethol Eryri, pan yn anffodus, fe gollodd ei fywyd. 

"Ymhlith y nifer o unigolion dewr a oedd yno i helpu Tom, roedd Tîm Achub Mynydd Llanberis. 

"Roedden nhw yn allweddol wrth sicrhau fod Tom yn cael gofal, ac yn cael ei achub oddi ar y mynydd, er mwyn iddo fedru dod yn ôl at ei deulu."

Mae mwy na £4,000 eisoes wedi ei godi ar gyfer y tîm achub.   

Adeg ei farwolaeth, dywedodd yr Arolygydd Jamie Owens o Heddlu'r Gogledd: "Mae fy nghydymdeimlad dwysaf yn parhau gyda theulu'r dyn yn yr amser anodd hwn.

"Mae ein hymchwiliad i amgylchiadau'r digwyddiad trasig hwn yn parhau.

"Rydym yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y cwymp i gysylltu â'r heddlu trwy ein gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 25000678802."


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.