
Gwynedd: 'Llai yn prynu tai fel ail gartref' yn dilyn mesurau newydd
Bron i flwyddyn ers i Gyngor Gwynedd ddod ag Erthygl 4 i rym, mae ffigyrau newydd yn awgrymu bod llai wedi prynu tŷ fel ail gartref yn y sir, dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae Erthygl 4 yn golygu bod yn rhaid i berchnogion fynnu caniatâd cynllunio gan y cyngor cyn bod modd trosi eiddo yn dŷ gwyliau neu’n ail gartref.
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud bod y sir ‘dan bwysau sylweddol oherwydd prinder tai addas a bod cyfres o fesurau ar waith’ i wyrdroi hynny.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae 17.4% o stoc dai Morfa Nefyn ym Mhen Llŷn a’r ardal ehangach bellach yn ail gartrefi.
Ond mae ystadegau yn dangos bod llai wedi prynu tai ac yna eu troi i ail gartrefi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae data gan Awdurdod Cyllid Cymru yn dangos fod 250 eiddo yng Ngwynedd wedi cael ei brynu i fod yn ail gartref rhwng Gorffennaf 2024 a Mehefin 2025 o’i gymharu â 290 eiddo yn yr un cyfnod yn 2023/24.”, meddai’r Cyngor.
Ond mae ffigyrau Cymdeithas Adeiladu Principality hefyd yn dangos bod prisiau tai drwy Wynedd wedi gostwng 7.2% o gymharu â’r un adeg y llynedd.
'Dial'
Mae mesur Erthygl 4 wedi hollti’r farn gyda rhai yn dweud ei fod wedi arwain at eiddo yn colli ei werth, tra bod eraill yn dweud bod o’n gwneud tai i bobl leol yn fwy fforddiadwy.
Ond yn ôl William Owen sydd yn y broses o drosi y tŷ a gafodd ei fagu ynddo yn llety gwyliau mae’n dweud bod mesurau’r cyngor wedi mynd yn rhy bell.
“Dwi’n gweld hi hollol fel arall”, meddai Mr Owen sy’n byw yn Nefyn.
“Mae Morfa Nefyn ‘di bod yn le mae pobl yn dod ar eu gwyliau ers blynyddoedd ac yn lle bo fi’n gwerthu’r tŷ fel ail dŷ, fydd hwn yn le all bobl ddod a rhoi pres i’r ardal”.
“Mae nhw [Cyngor Gwynedd] yn mynd o’i chwmpas hi yn hollol rong”
“Mae nhw di gwerthu y tai, be sa ni arfer galw’n tai council blynyddoedd yn ôl ac heb adeiladu dim yn eu lle nhw felly pam dyle ni pobl sydd bia tai, cael ein dial am oherwydd ffolindeb Cyngor Gwynedd”.

Ers Ebrill 2023 mae’n rhaid i ail gartrefi dalu premiwm treth 150% ar eu heiddo.
Mae nifer o drigolion Morfa Nefyn wedi dweud wrth Newyddion S4C bod codi’r dreth ynghyd ag Erthygl 4 yn golygu bod mwy yn gwerthu eu cartrefi ond nad ydy nhw wastad wedyn yn fforddiadwy.
Mae Nick Brown yn dod o Swydd Efrog, mae ganddo ail gartref ym Morfa Nefyn ac felly yn talu’r dreth uwch.
“Dwi’n meddwl fod o wedi mynd ychydig yn rhy bell rŵan”, meddai.
“Dwi’n meddwl y broblem fwya' ffordd hyn, ac allwch chi siarad efo unrhyw un lleol ydi gwaith”.
“Gwaith mae pobl yma eisiau”.
'Cymunedau Cymraeg'
Mae’n dweud bod polisiau Cyngor Gwynedd wedi arwain at gartrefi yn colli peth o’u gwerth a bod hi’n amlwg bod mwy yn gwerthu eu tai.
Mae'n cydnabod hefyd ei fod yn "rhan o’r broblem o bosib" ond yn dweud mai swyddi dylai'r flaenoriaeth fod i gadw pobl ifanc yn lleol.
Yn ôl Iwan Rhys Evans sy’n dod o’r pentref ac yn 23 oed mae’n rhaid gweithredu os am gadw’r gymuned yn fyw.
“Yr unig beth ‘da ni eisiau gwneud ydi gwarchod ein cymunedau Cymraeg, does ganddo ni ddim byd yn erbyn Saeson na thwristiaeth.
“Ond diwedd dydd, 'da chi’n dod yma ar eich gwyliau ond bod chi ddim yn amharu ar ein cymunedau ni.
“Unwaith mae’r cymunedau’n mynd, mae nhw di mynd”.
'Prisio allan'
Yn ôl Cyngor Gwynedd un o’u prif flaenoriaeth ydi sicrhau cynaliadwyedd hirdymor cymunedau.
“Mae'r sir o dan bwysau sylweddol oherwydd prinder tai addas, a adlewyrchir yn y bron i 4,000 o bobl sydd ar y gofrestr tai cymdeithasol ar hyn o bryd a'r 956 o aelwydydd a gyflwynodd eu hunain yn ddigartref yn ystod 2023-24.
“Mewn ymateb, mae'r Cyngor wedi cyflwyno cyfres o fesurau gyda'r nod o greu marchnad dai leol mwy cytbwys.
“O ran y Cyfarwyddyd Erthygl 4, dangosodd ymchwil a wnaed cyn cyflwyno’r polisi ym Medi 2024 fod dros 65% o aelwydydd Gwynedd wedi eu prisio allan o’r farchnad dai, gyda’r ganran yn sylweddol uwch yn yr ardaloedd hynny o’r sir sydd â nifer uchel o gartrefi gwyliau.
“Dyma un o’r rhesymau pam y cyflwynodd Cyngor Gwynedd Gyfarwyddyd Erthygl 4, gyda’r nod o gael gwell rheolaeth dros y stoc tai presennol a chwrdd ag anghenion cymunedau lleol.
“Bydd y Cyngor yn ymgymryd â gwerthusiad a monitro parhaus o’r ymyraethau sydd wedi ei roi ar waith er ceisio ymateb i argyfwng tai'r sir”.