Conwy: Ymchwiliad wedi i faner Lloegr ymddangos ar gylchfan

Baner Lloegr ar gylchfan yng Nghonwy

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio ar ôl i faner Lloegr gael ei pheintio ar gylchfan yng Nghonwy.

Cafodd cylchfan ger Ysgol John Bright yn Llandudno ei pheintio gyda chroes Sant Siôr, sef nawddsant Lloegr.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn cynnal ymholiadau mewn cysylltiad â'r digwyddiad, tra bod Cyngor Conwy wedi condemnio’r "graffiti".

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy y bydd y "graffiti" yn cael ei lanhau.

"Mae peintio neu osod graffiti heb awdurdod ar arwyneb y ffordd yn anghyfreithlon ac mae'n cael ei lanhau," meddai llefarydd.

Mae'r fandaliaeth yn dilyn ymddangosiad miloedd o faneri Lloegr a Jac yr Undeb ledled Lloegr, gyda llawer yn cael eu peintio'n anghyfreithlon mewn mannau cyhoeddus fel ar gylchfannau bychain.

Mewn llawer o drefi yn Lloegr, mae baneri'n cael eu harddangos yn gyfreithlon tra bod eraill yn anghyfreithlon.

Mae'n ymddangos bod yr arfer bellach wedi croesi'r ffin i ogledd Cymru.

Mae'r baneri yn rhan o ymgyrch answyddogol a dienw ar draws y wlad i hybu ymdeimlad o falchder a chenedlaetholdeb medd y trefnwyr, a hynny mewn cyfnod lle mae ceiswyr lloches a'r polisïau o'u hamgylch o dan y lach.

I eraill mae'r datblygiad yn arwydd o dwf yr asgell dde yn Lloegr.

 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.