Llys yn clywed fod dyn o Sir y Fflint 'wedi bwriadu achosi anaf difrifol i ddioddefwyr'
Mae llys wedi clywed fod dyn o Sir y Fflint "yn gwybod beth oedd yn ei wneud” pan symudodd fin sbwriel ar olwynion at ddrws tŷ a chynnau tân a arweiniodd at farwolaeth pensiynwr.
Ar ran yr erlyniad , dywedodd Rachel Brand KC wrth y rheithgor fod Andrew Gorrell, 54, o Saltney wedi gallu meddwl yn drylwyr drwy oblygiadau ei weithredoedd cyn y tân yn Wednesbury, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ym mis Mai y llynedd.
Fe ddewisodd Andrew Gorrell i beidio â rhoi tystiolaeth yn ei amddiffyniad yn yr achos yn Llys y Goron Wolverhampton.
Bu farw John Edwards, 82, yn yr ysbyty wedi i'w dŷ gael ei roi ar dân.
Fe gafodd ei wraig, Doreen Edwards, a oedd yn 81 oed ar y pryd, a'u dau fab Carl, 60, a Mark Edwards, 57, eu hanafu a'u cludo i'r ysbyty ar ôl y tân.
Ychwanegodd Rachel Brand KC: "Yn ei hanfod fe allwn ni ddweud fod hwn yn achos llofruddiaeth yn hytrach na'r drosedd lai o ddynladdiad.
"Pan y gwnaeth gynnau y bin a'i symud tuag at y drws blaen, er nad oedd efallai wedi bwriadu lladd unrhyw un, ond yn sicr roedd yn gwybod y byddai unrhyw un y tu mewn yn dioddef anaf corfforol difrifol iawn."
Dywedodd yr erlyniad y gellid awgrymu fod alcohol wedi effeithio arno, ond fod y dystiolaeth yn ei ddangos yn cerdded o gwmpas heb ddisgyn.
Dywedodd Michael Duck KC wrth amddiffyn Andrew Gorrell fod ple euog ei gleient i ddynladdiad yn golygu ei fod yn cydnabod ei fod yn gyfrifol am ddod â bywyd Mr Edwards i ben.
Ond fe wnaeth ddadlau fod gan weithredoedd Mr Gorrell nodweddion o "ymddygiad o anhrefn" gan rywun oedd yn hynod o feddw.
Clywodd y llys nad oedd gan Andrew Gorrell unrhyw gysylltiadau hysbys â'r teulu Edwards, eu cartref nac ardal Wednesbury.
Fe deithiodd yn honedig o Gymru ac fe gafodd ei weld ar CCTV yng nghanol Wolverhampton am tua 12:40 ar 11 Mai y llynedd cyn cyrraedd ardal Wednesbury am ychydig cyn 01:00.
Mae Andrew Gorrell yn cyfaddef dynladdiad ond yn gwadu llofruddiaeth.
Mae'r achos yn parhau.