Cyhoeddi rhestr fer Cân i Gymru 2026
Mae rhestr fer caneuon Cân i Gymru 2026 wedi cael ei chyhoeddi
Mae rhestr fer caneuon Cân i Gymru 2026 wedi cael ei chyhoeddi.
Bydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn ôl i gyflwyno'r gystadleuaeth a fydd, am y tro cyntaf ers dros ddeng mlynedd, yn cael ei chynnal yn fyw o Faes Sioe Môn ar nos Sadwrn 28 Chwefror 2026.
Yn ôl i gadeirio panel y rheithgor mae Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr.
Yn ymuno ag Osian ar y rheithgor eleni, mae Barry ‘archie’ Jones o’r band Celt, y gantores a'r gyfansoddwraig, Mali Hâf, y cyflwynydd a’r DJ radio, Mirain Iwerydd, a phrif leisydd y band Gwilym, Ifan Pritchard.
Bydd y gân fuddugol yn cipio tlws y gystadleuaeth a gwobr ariannol o £5,000, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.
Yr wyth cân sydd wedi cael eu dewis i gystadlu eleni yw:
- Storm Heno gan Rhodri Lloyd Evans.
- Chwilio am Ffordd Adra gan Geth Tomos, Henry Priestman, John Beck, Adam Dennis ac Emlyn Gomer.
- Dalen Newydd gan Rhi Jorj a Gwynedd Maesywaun.
- Dwisho Deud gan Ruby ac Endaf.
- Byd fy Hun gan Dan Williams.
- Hiraeth gan Lowri Clancy Davies.
- Y Gwanwyn Bach gan Rhydian Meilir a Myrddin ap Dafydd.
- Y Gân gan Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer.
Y gwylwyr sy'n gyfrifol am ddewis yr enillydd drwy fwrw eu pleidlais.
Bydd yr holl ganeuon yn cael eu chwarae ar Radio Cymru o 18 Chwefror ymlaen. A bydd modd i wylwyr adref ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #CiG2026.
Y band lleol o Ynys Môn, Fleur De Lys, fydd yn agor y rhaglen a bydd perfformiad arbennig gan Cordia, ddeng mlynedd ers iddyn nhw ennill y gystadleuaeth gyda’r gân ‘Dim Ond Un’.
Storm Heno gan Rhodri Lloyd Evans.
Image
Rhodri Lloyd Evans, Prifathro Ysgol Pentrefoelas, yw cyfansoddwr y gân. Mae Rhodri’n byw ym Mylchau ger Dinbych ac wrth ei fodd yn cyfansoddi. Y stori tu ôl i’r gân yw bod pethau mewn bywyd yn dal i fyny gyda phawb a bod canlyniad i hynny. Mae Rhodri’n gobeithio bydd y gân fachog yn aros yng nghof y gwrandawyr.
Ac mae o wedi addo i’w ddisgyblion y byddai’n prynu dau grwban i Ysgol Pentrefoelas petai’n ennill!
Rhodri fydd yn perfformio'r gân ar y noson.
Chwilio am Ffordd Adra gan Geth Tomos, Henry Priestman, John Beck, Adam Dennis ac Emlyn Gomer.
Image
Cyfansoddwyr y gân yw Geth Tomos, Henry Priestman, John Beck ac Adam Dennis. Emlyn Gomer sydd wedi ysgrifennu geiriau’r gân. Dyma’r tro cyntaf i Geth ac Emlyn weithio gyda’i gilydd ar ôl iddyn nhw gwrdd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2022 ble ddaeth Emlyn yn drydydd gyda’r gân ‘Rhyfedd o Fyd’ a Geth yn ail gyda’r gân ‘Cana Dy Gân’.
Mae’r gân yn trafod profiadau bywyd fel methiant, ond mae yna obaith a’r gobaith hynny yw neges y gân.
Y gantores Lowri Evans fydd yn perfformio’r gân.
Dalen Newydd gan Rhi Jorj a Gwynedd Maesywaun.
Image
Yr artist o’r Bala a chyn-aelod y bandiau Amledd ac Ust, Rhi Jorj, yw cyfansoddwraig y gân ‘Dalen Newydd’. Mae Rhi yn gyn-athrawes yn Ysgol Y Berwyn, ond bellach yn cyfansoddi yn llawn amser.
Y Bardd Gwynedd Huws Jones (Gwynedd Maesywaun) sydd wedi ysgrifennu geiriau’r gân.
Y stori tu ôl i’r gân yw fod pawb yn haeddu tudalen newydd, beth bynnag sy’n digwydd mewn bywyd. Y gobaith yw y bydd yna adeg lle mae heddwch yn dod at ddrws pawb.
Rhi Jorj bydd yn perfformio’r gân ar y noson.
Dwisho Deud gan Ruby ac Endaf.
Image
Yr artist o Ddeiniolen, Ruby, a’r DJ a’r cynhyrchydd cerddoriaeth o Gaernarfon, Endaf, yw cyfansoddwyr y gân ‘Dwisho Deud’.
Roedd y ddau wedi cyfarfod pan oedd Endaf yn gweithio yng Ngholeg Menai a Ruby mewn band yn y coleg. Dyma ail brosiect y ddau gyda’i gilydd ar ôl rhyddhau’r gân ‘To You, From Me’ llynedd. Mae’r gân ‘Dwisho Deud’ yn sôn am y pethau mae rhywun eisiau dweud wrth hen ffrind sydd bellach ddim yn ffrind.
Bydd Ruby yn perfformio’r gân ar y noson.
Byd fy Hun gan Dan Williams.
Image
Dan Williams, cyn-aelod o’r bandiau Y Promatics a Hudo, yw cyfansoddwr y gân ‘Byd Fy Hun’. Yn wreiddiol o Groeslon, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae Dan wrth ei fodd yn cyfansoddi caneuon ac mae ‘Byd Fy Hun’ yn gân bop am berthynas sydd wedi dod i ben a sut i symud ymlaen.
Dyma’r tro cyntaf i Dan berfformio ar ben ei hun heb fand, ac mae’n edrych ymlaen yn fawr at gamu ar lwyfan Cân i Gymru.
Hiraeth gan Lowri Clancy Davies.
Image
Lowri Clancy Davies yw cyfansoddwraig y gân ‘Hiraeth’. Symudodd Lowri o Gymru i Dungarvan yn Iwerddon yn 10 mlwydd oed ac wedi cael ei magu yn gwrando ar gerddoriaeth werin.
Mae’r gân am brofiad Lowri o deithio o gwmpas y byd a gadael ffrindiau a theulu tu ôl, a’r hiraeth sydd ganddi amdanynt a’i chartref yng Nghymru.
Enillodd tad Lowri, Ryland Teifi, cystadleuaeth Cân i Gymru 20 mlynedd yn ôl yn 2006 gyda’r gân ‘Lili’r Nôs’.
Bydd Lowri yn perfformio’r gân ar y noson gyda’i chwaer, Cifa.
Y Gwanwyn Bach gan Rhydian Meilir a Myrddin ap Dafydd.
Image
Cyn-enillydd Cân i Gymru, Rhydian Meilir yw cyfansoddwr y gân ‘Y Gwanwyn Bach’. Mae Rhydian yn wyneb cyfarwydd i’r gystadleuaeth ac wedi cyrraedd rhestr fer y gystadleuaeth yn 2012 gyda ‘Cynnal y Fflam’, yn 2019 gyda ‘Gewn ni Weld Sut Eith Hi’, dwy gân ar restr fer 2020 sef ‘Pan Fyddai'n 80 Oed’ a ‘Tir a'r Môr’ ac yna ennill yn 2022 gyda ‘Mae Yna Le’.
Y prifardd Myrddin ap Dafydd sydd wedi ysgrifennu’r geiriau cyn i Rhydian fynd ati i roi’r alaw at ei gilydd a chynhyrchu’r gân.
Jacob Elwy a Lleucu Gwawr fydd yn perfformio’r gân.
- Y Gân gan Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer.
Cyfansoddwyr y gân yw Geth Tomos a Henry Priestman ac Emlyn Gomer ysgrifennodd y geiriau. Dyma’r ail gân gan y tri sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni. Fe gollodd Emlyn 3 ffrind yn sydyn iawn ac roedd hynny yng nghefn ei feddwl wrth ysgrifennu geiriau’r gân.
Y linell ‘Ond er bod bywyd wedi dwyn dy lais’ symudodd y gân yn ei flaen. Mae Geth yn ei disgrifio hi fel anthem o gân.
Y gantores Sara Owen fydd yn perfformio’r gân.
Sut i bleidleisio
Fel llynedd, bydd modd i wylwyr bleidleisio drwy ddefnyddio’r gwasanaeth pleidleisio ar-lein am ddim.
Gellir pleidleisio gan ddefnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar a’r ddolen: s4c.cymru/canigymru. Yr unig beth fydd ei angen fydd cysylltiad â’r wê a chyfeiriad e-bost dilys.
I'r rhai sydd am bleidleisio ar ffôn clyfar, bydd côd QR ar y sgrin yn ystod y rhaglen fyw i'w cyfeirio'n uniongyrchol at y wefan bleidleisio. Unwaith ar y dudalen, gall gwylwyr glicio ar y blwch pleidleisio i ddewis eu hoff gân. Dim ond un bleidlais i bob cyfeiriad e-bost a ganiateir.
Wedi i wylwyr gadarnhau eu dewis a bwrw pleidlais trwy ddilyn y camau o nodi enw, côd post a chyfeiriad e-bost, bydd angen dilysu e-bost er mwyn cwblhau’r broses.
Bydd Cân i Gymru 2026 ymlaen ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer ar nos Sadwrn 28 Chwefror am 20.00.