Dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio menyw 'annwyl' yng Nghaerdydd
Mae dyn wedi ymddangos o flaen llys wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i fenyw 32 oed gael ei darganfod yn farw ar stryd yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf.
Mae Thisara Weragalage, 37 oed, o Bentwyn, wedi'i gyhuddo o lofruddio Niwunhellage Dona Nirodha Kalapni Niwunhella, 32 oed.
Fe gafodd swyddogion eu galw i ardal South Morgan Place yng Nglan yr Afon (Riverside) ar fore Iau, 21 Awst wedi adroddiadau fod menyw wedi'i hanafu yn ddifrifol.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw y fenyw, a oedd yn cael ei galw yn Nirodha, yn y fan a'r lle.
Fe gafodd Thisara Weragalage ei arestio mewn cysylltiad â'r farwolaeth ar Heol Seawall ychydig yn ddiweddarach.
Ymddangosodd Weragalage yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa i wynebu gwrandawiad ple ar 19 Medi.
Mae dyddiad ei achos llys wedi'i osod ar gyfer 9 Chwefror, 2026.
'Cariad'
Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd teulu Nirodha: "Rydym yn cofio Nirodha fel merch annwyl, aelod o'r teulu a ffrind annwyl i nifer.
"Bydd Nirodha yn cael ei chofio am byth gyda heddwch, cariad a diolch.
"Fe wnaeth ei charedigrwydd a'i chynhesrwydd gyffwrdd â nifer o fywydau a bydd ei hatgof yn parhau i'n hysbrydoli.
"Er i'w bywyd ddod i ben yn rhy fuan, bydd y cariad a rannodd bob amser yn aros gyda ni. Gorffwysa mewn heddwch, angel."