Carcharu gofalwraig am ymosod ar ddynes oedrannus mewn cartref gofal
Mae gofalwraig wedi cael ei charcharu ddydd Mawrth am ymosod ar ddynes oedrannus mewn cartref gofal yn Wrecsam.
Gafaelodd Michelle Goodwin, 55 oed, o Heol Celyn, Coedpoeth, yng ngwallt y preswylydd 81 oed a'i gwthio i gadair yng Nghartref Gofal Cherry Tree yng Nghoedpoeth ar 26 Rhagfyr, 2023.
Fe ddioddefodd y ddynes sydd â dementia gleisiau ar ei phen o ganlyniad i'r ymosodiad.
Roedd Goodwin wedi gwadu cyhuddiad o ymosod gan achosi niwed corfforol, ond fe'i cafwyd yn euog gan y rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug o'r drosedd mewn achos llys ym mis Gorffennaf.
Cafodd ei dedfrydu i 13 mis o garchar yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Jane Burns o Heddlu'r Gogledd: “Nid yn unig roedd ymddygiad Goodwin yn gamddefnydd o'i hymddiriedaeth yn erbyn dioddefwraig fregus ond fe achosodd hefyd ofid sylweddol iddi hi a’i theulu.
“Gobeithiwn y byddant yn cael rhywfaint o gysur yn y ddedfryd heddiw, ac y bydd y gwasanaeth gwahardd yn cael gwybod am euogfarn Goodwin i’w hatal rhag gweithio gydag oedolion bregus yn y dyfodol.”