Trump yn 'diswyddo' un o lywodraethwyr Banc Canolog yr Unol Daleithiau

Lisa Cook

Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi cyhoeddi ei fod wedi penderfynu "diswyddo" un o lywodraethwyr Banc Canolog annibynnol yr Unol Daleithiau.

Dyma fyddai'r achos cyntaf o arlywydd yn diswyddo un o lywodraethwyr banc canolog y wlad, y 'Fed', yn hanes 111 mlynedd y sefydliad.

Dywedodd Donald Trump, yn ei lythyr at y Llywodraethwr Lisa Cook a gyhoeddwyd arlein: “Rydw i wedi penderfynu bod achos digonol i’ch diswyddo.”

Nid yw'n amlwg a oes gan yr Arlywydd yr awdurdod cyfreithiol i ddiswyddo Cook o gwbl.

Yn ei ddatganiad, fe gyhuddodd Donald Trump Lisa Cook o wneud datganiadau ffug ar gytundebau morgais.

Nid yw Dr Cook wedi’i chyhuddo o unrhyw gamwedd cyfreithiol, ac mae hi wedi dweud nad oes gan Mr Trump yr awdurdod i’w diswyddo.

Mae’r ‘Fed’ wedi bod dan lach yr Arlywydd ers rhai misoedd am beidio â gostwng cyfraddau llog.

“Mae’r Arlywydd Trump wedi honni ei fod wedi fy niswyddo i ond nid oes achos cyfreithiol dros wneud hynny dan y gyfraith, a does ganddo ddim yr awdurdod i wneud hynny,” meddai Lisa Cook mewn datganiad a rannodd ei chyfreithwyr gyda’r wasg nos Lun.

“Ni fyddaf yn ymddiswyddo. Byddaf yn parhau i gyflawni fy nyletswyddau i helpu economi America fel yr wyf wedi gwneud ers 2022.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.