'Rhwystro mynediad': Galw ar gerddwyr i gadw draw o Fynydd Bodafon ar Ynys Môn ar ôl tân

Mark Denton
Tân Mynydd Bodafon

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi galw ar gerddwyr i barhau i gadw draw o Fynydd Bodafon ar Ynys Môn wrth i’r gwaith o reoli tân yno barhau.

Mewn datganiad fore Sadwrn, dywedodd y gwasanaeth fod chwe injan a phedwar cerbyd tân gwyllt wedi bod bresennol.

Nos Lun, dywedodd y Gwasanaeth Tân ac Achub eu bod nhw’n parhau i alw ar bobl i osgoi yr ardal.

“Mae ein criwiau tân yn parhau i ymladd y tân ym Mynydd Bodafon,” meddai’r gwasanaeth.

“Rydym wedi derbyn adroddiadau am bobl yn cerdded yn yr ardal. Peidiwch â mynd i'r ardal - mae'n rhwystro mynediad y gwasanaethau brys.

“Peidiwch â pharcio ar ffyrdd cyfagos, gan fod angen i ni gadw llwybrau'n glir i'n criwiau tân. Bydd rhai ffyrdd ar gau, a bydd criwiau'n aros ar y safle am beth amser.

“Diolch am eich cydweithrediad.”

Ar ei waethaf, roedd y tân yn gorchuddio arwynebedd o 1,500 metr sgwâr.

Mewn datganiad nos Wener, fe ddywedodd y gwasanaeth fod nifer o bobl wedi mynd i’r ardal nos Wener a bod cerbydau'n rhwystro'r llwybrau i'r gwasanaethau brys. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.