Cymro yn mentro ar hyd un o afonydd hiraf y byd
Bydd anturiaethwr o Lanelwy, Sir Ddinbych yn ceisio teithio ar hyd un o afonydd hiraf y byd.
Bydd Ash Dykes sy'n 34 oed, yn mentro ar hyd Afon Felen yn Tsieina o'i tharddiad i'r môr, sy'n 3,400 o filltiroedd.
Yn ystod ei antur, bydd yn ceisio cyflawni sawl gweithgaredd, o baragleidio i ddeifio a dringo.
Bydd taith Mr Dykes yn cychwyn ddechrau Medi, a bydd cwmniau teledu rhyngwladol yn dilyn y cyfan.
Yn 2019, hawliodd y Cymro mai fe oedd y person cyntaf i gwblhau taith 4,000 milltir ar droed ar hyd afon Yangtze yn Tsieina.
Yn ei antur ddiweddaraf, bydd yn teithio drwy Tibet i Anialwch Gobi Desert, yna dros fynyddoedd i Fongolia cyn gorffen y daith ym Môr Bohai.
Afon Felen yw'r ail hiraf yn Tsieina.
Mae Ash Dykes hefyd wedi teithio ar hyd Wal Fawr Tsieina, ac mae e'n enw adnabyddus ar hyd a lled y wlad.
'Uchelgeisiol'
Wrth drafod ei antur ddiweddaraf, dywedodd Mr Dykes: “Mae Tsieina wastad wedi teimlo fel ail gartref i fi
“Ar ôl cerdded ar hyd ei chwaer afon - yr Yangtze, mae hwn yn teimlo fel y cam naturiol nesa, ac unwaith yn rhagor, mae Tsieina wedi fy nghroesawu gyda breichiau agored.
“Hwn yw prosiect mwyaf uchelgeisiol fy ngyrfa hyd yn hyn.”
Yn 2014, Mr Dykes oedd y person cyntaf ar gofnod i gerdded ar hyd Mongolia o'r gorllewin i'r dwyrain ar ei ben ei hun. Cyflawnodd hynny mewn 78 diwrnod.
Ac yn 2016, fe oedd y cyntaf i gerdded ar hyd Madagascar - taith 1,600 o filltiroedd dros wyth mynydd mewn 155 o ddyddiau.