Image

Mae gwylwyr y glannau wedi achub dau berson o gwch oedd wedi troi drosodd ger Pont Britannia.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau Bangor eu bod nhw wedi derbyn adroddiad bod pobl yn y dŵr ger y bont gan Wylwyr y Glannau Caergybi ddydd Llun.
Fe gafodd dau a oedd wedi eu hanafu eu darganfod ar gragen y cwch ger Bwllfanogl, yn drifftio i'r de tuag at Blas Newydd.
“Cafodd y sawl a oedd wedi’u hanafu eu cadw dan oruchwyliaeth nes i Fad Achub Biwmares gyrraedd y lleoliad,” meddai Gwylwyr y Glannau Bangor.
“Doedd dim modd unioni’r cwch ac fe gafodd ei dynnu i Felinheli i’w angori’n ddiogel fel na fyddai’n berygl i eraill.”
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.