Dim bwriad gan Gymru i fod yn rhan o Dîm GB - Noel Mooney
Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, wedi dweud nad ydi bod yn rhan o dîm Prydain yng Ngemau Olympaidd Los Angeles 2028 "ar ein radar o gwbl".
Dywedodd Cymdeithas Olympaidd Prydain ar ôl y Gemau ym Mharis y llynedd eu bod nhw eisiau i dîm pêl-droed dynion gystadlu yn LA yn 2028.
Dywedodd Andy Anson, cyn brif weithredwr Cymdeithas Olympaidd Prydain a ymddiswyddodd o’i rôl ym mis Gorffennaf, bryd hynny y byddai'r sefydliad yn trafod â chymdeithasau pêl-droed Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Pe bai’n digwydd dyna fyddai y tro cyntaf ers Llundain yn 2012 i dîm pêl-droed dynion y DU gystadlu yn y Gemau Olympaidd. Fe gystadlodd tîm merched yn Tokyo yn 2020.
Ond dywedodd Noel Mooney: "Dyw'r Gemau Olympaidd ddim ar ein radar ni o gwbl, ddim ar unrhyw lefel.
"Dydw i ddim wedi clywed gair amdano a dydw i erioed wedi'i drafod ag unrhyw un.
"Rydyn ni am ganolbwyntio ar Gymru a'r hyn ydan ni yn ei wneud.
"Mae hynny [y Gemau Olympaidd] yn waith i rywun arall, ond ein gwaith ni yw sicrhau ein bod ni'n cynrychioli ein hunain yn y ffordd gywir.
“Oddi ar y cae ac ar y cae, rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n cynrychioli Cymru yn y ffordd gywir. Dyna beth rydyn ni’n canolbwyntio’n llwyr arno.”